Mae Swm Cymudol yn daliad gan ddatblygwyr i awdurdod lleol pan nad oes modd creu man awyr agored mewn datblygiad. Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i wella mannau agored a mannau chwarae, fel rheol yn yr un dref neu gymuned â’r datblygiad. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gellir defnyddio'r arian mewn trefi neu gymunedau cyfagos (cyn belled â'u bod yn y sir).
Cyllid
Bydd arian ond ar gael yn ardaloedd cynghorau dinas, tref a chymuned lle mae datblygiadau gyda chytundebau symiau gohiriedig mannau agored yn bodoli, a lle mae’r amodau angenrheidiol wedi eu bodloni er mwyn gwneud taliadau cyn i’r arian gael ei hysbysebu.
Bydd ceisiadau ar gyfer prosiectau cymwys yn cymryd lle ar draws ardaloedd dinas, tref a chymuned a restrir isod yn cael eu derbyn, fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sydd yn cymryd lle yn yr un ardal y mae’r datblygiadau yn cael eu hadeiladu (amlygir yn y golofn lleoedd â blaenoriaeth).
Mae’r cyllid sydd ar gael, ac ym mha faes yn cael eu rhestru isod:
Arian a neilltuwyd ar gyfer Symiau Cymudol 2026
| Ardal cyngor tref neu gymuned | Swm sydd ar gael |
| Clocaenog |
£1,432.80 |
| Cyffylliog |
£2,694.19 |
| Dinbych |
£1,362.39 |
| Llanarmon yn Ial |
£1,298.40 |
| Llandyrnog |
£1,434.50 |
| Llanelwy |
£22,652.45 |
| Llangollen |
£3,603.18 |
| Llangynhafal |
£12,529.85 |
| Llanynys |
£4,025.03 |
| Prestatyn |
£22,986.49 |
| Rhuddlan |
£1,298.40 |
| Y Rhyl |
£25,746.74 |
Pwy all wneud cais?
Mae’r mathau canlynol o sefydliadau’n gymwys i ymgeisio:
- Cynghorau dinas, tref a chymuned
- Grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau trydydd sector
- Elusennau
- Sefydliadau’r sector cyhoeddus
- Clybiau chwaraeon amatur
- Cyngor Sir Ddinbych, gan gynnwys ysgolion (cyn belled bod y prosiect yn bodloni’r meini prawf)
I gael eu hystyried ar gyfer y gronfa hon, mae’n rhaid i glybiau a sefydliadau aelodaeth fod yn fforddiadwy ac yn hygyrch i’r gymuned yn gyffredinol. Dylent gynnig opsiwn “talu a chwarae” i rai nad ydynt yn aelodau hefyd.
Pa fath o brosiect sy’n gymwys?
Gellir defnyddio’r cyllid i gynllunio man agored a darpariaeth chwarae newydd neu i wella’r ddarpariaeth bresennol, a thrwy hynny gynyddu’r defnydd. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y gronfa hon:
- Gellir ond defnyddio’r arian ar gyfer prosiectau cyfalaf - sef gwelliannau ffisegol a fydd yn aros yn eu lleoliad yn hirdymor. Er enghraifft, byddai pyst gôl sefydlog yn gymwys, ond ni fyddai pyst gôl symudol yn gymwys.
- Ni ellir defnyddio cyllid ar gyfer gwaith dichonoldeb, costau staffio, costau cynnal a chadw parhaus nag offer symudol (e.e. peiriannau torri gwair, awyryddion, offer chwarae symudol).
- Mae mannau awyr agored anffurfiol fel mannau gwyrdd a choetiroedd yn gymwys os yw’r prosiect yn cynyddu gwerth hamdden y lleoliad.
- Parciau, gerddi a chyfleusterau chwaraeon ffurfiol ble gall pobl wneud ymarfer corff, cyn belled â’u bod ar agor i’r cyhoedd ac yn fforddiadwy neu am ddim.
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o drefniadau cynnal a chadw parhaus, caniatâd cynllunio, perchnogaeth tir, a/neu drefniadau prydlesu.
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr roi tystiolaeth o ymgysylltiad cymunedol, a lle bynnag y bo modd, cefnogaeth gan y Cyngor Dinas, Tref neu Gymuned perthnasol.
Sut i wneud cais am swm gohiriedig
Gallwch wneud cais am symiau gohiriedig rŵan. Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy lawrlwytho ac anfon ffurflen gais wedi’i llenwi atom ni.
Mae’r broses yn cau am hanner nos, nos Lun 20 Ebrill 2026
Gwneud cais ar-lein
Gwneud cais am swm gohiriedig
Lawrlwytho Ffurflen Gais
Ffurflen Gais Symiau Gohiriedig Mannau Agored Hamdden Cyhoeddus (MS Word, 59KB)
Canllaw a mwy o wybodaeth
E-bostiwch communitydevelopment@denbighshire.gov.uk os hoffech chi:
- arweiniad tra’n gwneud cais am swm gohiriedig
- drafod y prosiect arfaethedig mewn mwy o fanylder
- mwy o wybodaeth
Asesu’r Cais
Ystyrir ceisiadau mewn ymgynghoriad â Swyddogion y Cyngor Sir a'r Cynghorwyr Sir lleol. Nid oes hawl i apelio yn yr achos hwn, er y gellir gwneud sylwadau i’r Cyngor cyn i’r arian gael ei ddyrannu.
Meini Prawf Asesu
Caiff ceisiadau eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol. Ni ddisgwylir y bydd prosiect yn bodloni pob un o’r meini prawf uchod, ond caiff y ceisiadau sy’n bodloni cyfradd uwch o’r meini prawf eu blaenoriaethu.
Mae’r prosiect:
- Wedi’i leoli mewn ardal cyngor dinas, tref neu gymuned gymwys, lle hysbysebir bod symiau gohiriedig ar gael.
- Yn rhan o strategaeth gyffredinol i wella mannau agored hamdden cymunedol.
- Yn bodloni tystiolaeth o angen neu ddiffyg yn yr ardal leol.
- Yn cynyddu cyfranogiad yn sylweddol.
- Yn ymestyn y cyfnod defnydd (gan gynnwys darparu defnydd drwy gydol y flwyddyn).
- Yn ymestyn neu ledaenu’r defnydd presennol er mwyn darparu defnydd ychwanegol.
- Yn darparu neu ymestyn y defnydd i bob oedran, rhyw, chwaraeon neu adrannau o’r gymuned, gan gynnwys gwella hygyrchedd.
- Yn cynnig gwerth am arian.
- Yn dod ag arian ychwanegol sylweddol drwy gyfrwng arian cyfatebol.
- Yn enghraifft dda o waith partneriaeth y gall y gymuned leol elwa ohono.
- Ar gael i’r cyhoedd am ddim neu’n rhad iawn.
- Wedi derbyn cefnogaeth y Cyngor Dinas, Tref a Chymuned.
- Yn defnyddio dull a arweinir gan y gymuned gyda thystiolaeth o ymgysylltiad ac ymgynghoriad â’r gymuned.
- Cymryd camau i ystyried effaith amgylcheddol yn unol â Strategaeth Hinsawdd a Natur Sir Ddinbych
Talu’r Grant
Gwneir taliadau grant i sefydliad yr ymgeisydd ar ôl cwblhau’r gwaith, naill ai ar ddiwedd y prosiect neu’n raddol. I hawlio grant, bydd yn rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno ffurflen gais ynghyd ag anfonebau â derbynneb ar gyfer treuliau cymwys cymeradwy. Caiff trefniadau talu grantiau amgen eu gwneud mewn amgylchiadau eithriadol a lle bo’r angen yn amlwg yn unig. Mae’n rhaid i ymgeiswyr gadw’r holl gofnodion hanfodol yn ystod y prosiect ac ar ôl ei gwblhau at ddibenion archwilio.
Cyfrifoldeb Tîm Gwytnwch Cymunedol (Gwasanaeth Tai a Chymunedau) Cyngor Sir Ddinbych fydd rheolaeth ariannol a gweinyddol o’r cyllid. Cedwir yr arian mewn cyfrif sy'n ennill llog ar wahân a chaiff ei glustnodi ar gyfer darpariaeth man agored.
Cwblhau Cynlluniau
Bydd terfyn amser ar arian a ddyfernir. Mae’n rhaid cwblhau prosiectau o fewn 24 mis yn dilyn cymeradwyaeth, fel arall, bydd y dyraniad yn dod i ben a bydd yn rhaid i ymgeiswyr wneud cais arall. Bydd angen diweddariad ar gynnydd ar ôl 12 mis.