Datblygu Cymunedol: Sut y gallwn helpu

Mae cymuned yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Dyma ychydig enghreifftiau o'r mathau o gymuned sy'n bodoli, er fod llawer mwy.

  • Cymuned o le e.e. y stryd lle rydych yn byw
  • Cymuned o ddiddordeb e.e. clwb chwaraeon
  • Cymuned o weithgarwch e.e. grŵp o bobl yn ceisio achosi newid
  • Cymuned o amgylchiadau e.e. grŵp o bobl yn profi sefyllfaoedd tebyg, fel cyflwr iechyd

Rôl y Tîm Datblygu Cymunedol yw gweithio gyda phobl ar draws Sir Ddinbych a hoffai achosi newid cadarnhaol yn eu cymuned. Gallai hyn olygu cychwyn prosiect newydd o'r dechrau, ehangu gwaith grŵp cyfredol neu weithredu ar syniad da rydych wedi ei gael gyda phobl sy'n rhannu eich gweledigaeth.

Rydym yn credu ei bod yn bwysig i gymunedau arwain, gan ddweud wrthym beth allwn ni ei wneud i'w helpu i gyflawni beth sydd bwysicaf iddyn nhw, yn hytrach na fel arall. Mae hyn yn golygu mai dim ond pan fyddwn yn cael ein holi y byddwn ni'n dod yn rhan o bethau, a byddwn wastad yn annog cymunedau i dynnu ar sgiliau ac asedau eu haelodau.

Mae sut gallwn helpu yn dibynnu ar beth mae'r gymuned yn ei ddweud wrthym sydd ei angen, yn aml mae'n golygu pethau fel cyngor am gyllid, canllawiau cynllunio prosiect a gwneud cysylltiadau gyda thimau eraill neu sefydliadau partner. Mae'r tîm yn darparu cyswllt gwirioneddol rhwng cymunedau ac amrywiaeth eang o bartneriaid, ond hefyd rhwng grwpiau cymunedol tebyg i'w gilydd, ac mae hyn yn golygu y gellir dysgu ar y cyd ar draws y sir.

Os hoffech gefnogaeth i ddatblygu prosiect cymunedol neu syniad, cysylltwch â'r Tîm Datblygu Cymunedol drwy e-bost: datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk.

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio a'n newyddlen

Peidiwch â cholli allan! Cofrestrwch ar gyfer eich rhestr bostio a'n newyddlen er mwyn derbyn yr holl newyddion datblygu cymunedol a’r newyddlenni diweddaraf yn syth i'ch mewnflwch.

Mae’n newyddlen yn cael ei chylchredeg 6 gwaith y flwyddyn gan ein galluogi i ddweud mwy wrthych chi ynglŷn â’r hyn mae’r tîm wedi bod yn ei wneud a beth sy’n digwydd mewn cymunedau ar hyd a lled Sir Ddinbych. Fe fyddwn ni hefyd yn rhannu newyddion diweddaraf datblygu cymunedol yn cynnwys cyfleoedd cyllido sydd ar y gweill, digwyddiadau a dyddiadau/canllawiau pwysig i’ch helpu i gynllunio ymlaen llaw.

Cofrestrwch ar gyfer rhestr bostio Datblygu Cymunedol

Gallwch ddatdanysgrifio oddi ar restr bostio Datblygu Cymunedol unrhyw bryd drwy anfon e-bost atom: datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk.