Cyngor ar ddiogelwch i leihau trosedd yn eich ardal chi

Eich cartref

Diogelwch yn y Cartref yw’r ffordd orau o leihau eich siawns o gael lladrad. Mae llawer o ladradau yn rai byrfyfyr, gyda lladron yn gweld ffenestr agored, neu ffordd arall o gael mynediad yn hawdd, ac yn cymryd siawns.

Os ydych yn mynd allan, dylech yn wastad gau a chloi pob ffenestr a drws allanol – hyd yn oed os nad ydych ond yn mynd allan am gyfnod byr.

Cynllun Argyfwng i'r Cartref (PDF, 407KB)

Pobl hŷn

Gall pobl hŷn deimlo’n fwy agored i rai troseddau, ond mewn gwirionedd maent yn llai tebygol o gael eu targedu. Gall ychydig o gamau syml helpu i leihau’r risg o drosedd.

  • Cadwch restr o rifau defnyddiol wrth y ffôn. Gall y rhain gynnwys rhifau eich teulu, yr orsaf heddlu leol, y cyngor lleol ac ati. 
  • Peidiwch â chadw symiau mawr o arian parod yn eich cartref - yn hytrach defnyddiwch Fanc/Gymdeithas Adeiladu.

Troseddau stepen drws a masnachwyr ffug

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n galw i’ch cartref yn bobl gonest; ond weithiau gall rhywun alw’n ddirybudd, gyda’r bwriad o dwyllo eu ffordd i mewn i’ch cartref. Os bydd rhywun yn galw i’ch gweld dylech; 

  • AROS Ydych chi’n disgwyl rhywun? 
  • A oes ganddynt apwyntiad? 
  • CADWYNO Defnyddiwch far neu gadwyn y drws cyn ei agor. 
  • GWIRIO Gofynnwch am gerdyn adnabod yr ymwelydd a darllenwch ef yn fanwl.
  • Os oes gennych unrhyw amheuon, cadwch nhw allan.

Ewch i’r dudalen Troseddau stepen drws a masnachwyr ffug am fwy o gyngor.

Mwy o wybodaeth

Gallwch ddarllen ein llawlyfr diogelwch am fwy o wybodaeth neu ddod o hyd i aelod o’ch tîm Gwarchod Cymdogaeth agosaf neu heddlu lleol.

Llawlyfr diogelwch (PDF, 1.47MB)

Dod o hyd i’ch Gwarchod Cymdogaeth agosaf (gwefan allanol)

Dod o hyd i’ch tîm heddlu agosaf (gwefan allanol)