Trosolwg o'r gyllideb

Trosolwg o'r gyllideb

Caiff ein cyllidebau blynyddol eu gosod erbyn mis Mawrth ac maen nhw'n cynnwys ystyried y gwasanaethau mae'n rhaid i ni eu darparu, swm yr incwm a'r cyllid y gallwn ei godi ac yn benodol, y pwysau ariannol rydym ni'n eu hwynebu.

Trosolwg o'r Gyllideb

Mae gofyn i’r Cyngor osod cyllideb flynyddol, sy’n cynnwys ystyried swm yr incwm a’r cyllid y gall ei godi, y gwasanaethau mae’n rhaid eu darparu a phwysau ariannol fel chwyddiant.

Mynd yn syth i:

Pa wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor?

Ni yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn Sir Ddinbych, rydym yn darparu gwasanaethau hanfodol i’r gymuned a chefnogi 95,000 o breswylwyr.

Trosolwg o'r Gyllideb: Preswylwyr a Chartrefi

Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys gofal cymdeithasol i bobl hŷn a phobl ddiamddiffyn, cynnal a chadw ein ffyrdd, parciau ac isadeiledd arall, gwasanaethau cynllunio a rheoli adeiladu, gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu, gwasanaethau iechyd yr amgylchedd, darparu ysgolion a llyfrgelloedd yn ogystal â llawer o wasanaethau lleol eraill.

Mae rhai o'n gwasanaethau (fel gofal cymdeithasol ac iechyd yr amgylchedd) yn statudol ac wedi'u nodi mewn deddfwriaeth a chaiff gwasanaethau eraill eu darparu yn ôl disgresiwn.

Ynglŷn â'n cyllideb

Mae'r gyllideb y nodi faint o arian gallwn ei wario ar gyflawni ein hamcanion ym mhob gwasanaeth.

Mae dwy elfen i'n cyllideb:

  • Cyllideb refeniw sy'n cynnwys gwario ar redeg gwasanaethau o ddydd i ddydd, er enghraifft cyflogau, contractau am wasanaethau a chostau rhedeg adeiladau.
  • Cynllun cyfalaf sy'n cynnwys gwario ar eitemau a gaiff eu defnyddio gan Gyngor Sir Ddinbych am fwy na blwyddyn: er enghraifft tir, adeiladau, cerbydau a chyfrifiaduron.

Trosolwg o'r Gyllideb: Cyfalaf a Refeniw

Sut caiff ein cyllideb ei hariannu


Caiff ein cyllideb refeniw ei hariannu gan:

  • Grant cynnal refeniw (Llywodraeth Cymru): 62%
  • Ailddosbarthu Ardrethi Annomestig: 13%
  • Treth y Cyngor: 25%

Mae'r Cyngor yn cael grantiau penodol, ac incwm arall o ffioedd a thaliadau sy’n cyfrannu at gost darparu gwasanaethau’r Cyngor.

Trosolwg o'r gyllideb: Sut caiff ein cyllideb ei hariannu

Darganfyddwch fwy am sut mae’r Cyngor yn cael ei ariannu.

Rhagolwg y gyllideb

Fel pob sefydliad mawr yn y sector cyhoeddus, ein nod yw rheoli ein hadnoddau’n ofalus a gwneud mwy gyda llai o arian.

Mae’r Cyngor wedi cadw sefyllfa ariannol gynaliadwy hyd yma, ond bydd angen i ni barhau i ddarparu arbedion er mwyn bodloni pwysau a ragwelir ar y gyllideb.

Mae nifer o ffactorau i’w hystyried wrth osod ein cyllideb, fel:

  • Pwysau’r gyllideb a’r effaith bosibl ar wasanaethau.
  • Effaith costau cynyddol a’r arian rydym ni’n ei gael, ar fforddio darparu gwasanaethau.
  • Parhau i nodi’r dull gorau o ganfod arbedion gan gynnwys canolbwyntio ar gadw costau i lawr.
  • Parhau i ofyn am syniadau newydd am ffyrdd cost-effeithiol o ddarparu gwasanaethau, a gwrando arnynt.
  • Effaith bosibl chwyddiant a chynnydd o ran biliau ynni.
  • Yr effaith bosibl ar ein preswylwyr a’n cymunedau.

Ein Cyllideb

Cyngor Sir Ddinbych yw un o gyflogwyr mwyaf y sir sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’r gymuned ac yn cefnogi 95,000 o drigolion. Ei nod yw gweithredu mewn ffordd gynaliadwy er budd hirdymor cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol.

Fel pob Awdurdod Lleol ar draws Cymru, mae sefyllfa ariannol y Cyngor yn hynod heriol ar hyn o bryd, ac mae angen am arbedion cyllideb sylweddol yn ddigynsail.

Y gyllideb a chynllunio ariannol

Caiff ein cyllidebau blynyddol eu gosod erbyn mis Mawrth ar gyfer dechrau’r flwyddyn ariannol ym mis Ebrill. Mae proses gosod a monitro cyllidebau’n sicrhau bod modd i ni ddefnyddio ein hadnoddau ar gyfer y diben a fwriedir.

Trosolwg o'r Gyllideb: Fe wnaethom osod ein cyllideb ym mis Mawrth

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig

Mae ein Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn galluogi’r Cyngor i ystyried ei gyllid fwy na blwyddyn o flaen llaw. Mae hyn yn galluogi’r Cyngor i gynllunio'n iawn ar gyfer pwysau o ran costau, arbedion, chwyddiant, newidiadau i wasanaethau a buddsoddiad mewn blaenoriaethau.

Mae’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn nodi dull strategol y Cyngor o reoli ei gyllid a chaiff ei gefnogi gan Gynllun Ariannol Tymor Canolig, sy’n canolbwyntio mewn mwy o fanylder ar sefyllfa’r gyllideb a ragwelir a’r cyfrifiadau ariannol ategol sy’n ei chefnogi.

Llyfrau'r Gyllideb

Mae llyfrau’r gyllideb yn darparu gwybodaeth am gyllidebau’r Cyngor a rhaglenni cyfalaf gan gynnwys faint mae’r Cyngor yn bwriadu ei wario ar wasanaethau (fel addysg, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau amgylcheddol, cynllunio a thai).

Maen nhw’n darparu manylion am faint sy’n cael ei wario ar wella neu ddisodli asedau fel adeiladau, ffyrdd, cerbydau ac offer a ddefnyddir gan wasanaethau (cyfalaf) dros y blynyddoedd nesaf.

Darganfyddwch fwy am Lyfrau’r Gyllideb.

Gosod ein cyllideb

Ni allwn gadarnhau ein cynlluniau cyllideb blynyddol nes byddwn ni’n gwybod:

  • Faint mae angen i ni ei wario ar ddarparu ein gwasanaethau
  • Pwysau gwario ychwanegol ar ein gwasanaethau a chynnydd o ran prisiau
  • Arbedion mae modd i ni eu cyflawni
  • Faint o gyllid fyddwn ni’n ei gael gan Lywodraeth Cymru

Pan fyddwn ni’n gwybod beth yw’r symiau uchod, gallwn gyfrifo swm Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Trosolwg o'r Gyllideb: Ni allwn ond gwblhau

Cyllideb y Cyngor 2023/24

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo’r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.

Mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn ar 31 Ionawr 2023, cefnogodd Aelodau gynigion y gyllideb, a oedd yn cynnwys codi Treth y Cyngor 3.8%. Cafodd lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2023/34 ei chymeradwyo yng nghyfarfod y Cyngor llawn ar 28 Chwefror 2023.