Rheoliadau gwybodaeth amgylcheddol

Bydd Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn rhoi’r hawl i aelodau’r cyhoedd gyrchu’r wybodaeth amgylcheddol rydyn ni’n ei dal.

Sut mae gofyn am wybodaeth?

Cyn i chi ofyn am wybodaeth
Rydym ni'n cyhoeddi llawer o wybodaeth drwy ein Cynllun Cyhoeddi. Gwiriwch yma cyn gwneud cais a dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, oherwydd mae'n bosibl bod y wybodaeth rydych ei eisiau ar gael yn barod mewn rhan arall o'r gwefan.

Gallwch ofyn am unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am bolisïau a chynlluniau sy’n effeithio ar yr amgylchedd; cyflwr yr aer, dŵr neu’r tir; neu faint o arian fyddwn ni’n ei wario ar yr amgylchedd.

Dyma rai enghreifftiau o geisiadau a dderbyniwyd gennym yn y gorffennol: 

  • Gadewch i mi wybod cost atgyweirio a chynnal a chadw pontydd yn Sir Ddinbych yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf os gwelwch yn dda. 
  • Sawl achos o dipio anghyfreithlon a gofnodwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a beth yw’r pethau mwyaf cyffredin i gael eu gadael? 
  • Hoffwn weld eich data allyriadau carbon mewn cysylltiad â gwresogi a goleuo swyddfeydd y cyngor yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 
  • Byddai gennyf ddiddordeb gwybod beth mae polisïau amgylcheddol y Cyngor yn ei nodi ynghylch bioamrywiaeth mewn llefydd fel  Aber Adda, Llangollen

Gofyn am wybodaeth ar-lein

Fel arall, gallwch chi:

  • Ebost: gwybodaeth@sirddinbych.gov.uk 
  • Ysgrifennu llythyr at: Swyddog Mynediad at Wybodaeth, Tîm Rheoli Gwybodaeth Corfforaethol, Cyngor Sir Ddinbych, Blwch Post 62, Rhuthun, LL15 9AZ.

Fe ddown yn ôl atoch chi o fewn 20 diwrnod gwaith.

Os oes angen cymorth arnoch i wneud eich cais, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar 01824 706000 a daliwch y lein ar gyfer ‘pob ymholiad arall’.

Fydd yna gost?

Mewn rhai achosion gellir codi tâl bychan am wybodaeth amgylcheddol, ond bydd hyn yn dibynnu ar swm y wybodaeth a pha fath o wybodaeth rydych chi’n gofyn amdani. Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod hyn cyn gwneud eich cais.

Y Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (gwefan allanol) ydi awdurdod annibynnol y Deyrnas Unedig sydd wedi ei sefydlu i orfodi cyfreithiau sy’n ymwneud â chyrchiad cyhoeddus i wybodaeth. Mae’n darparu cyngor i’r cyhoedd ac i sefydliadau fel y Cyngor, sy’n dal gwybodaeth bersonol a chofnodion swyddogol.

Dogfennau cysylltiedig