Cynllun Gwella Hawliau Tramwy

Mae Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2008-2018 yn gynllun strategol 10 mlynedd, a fydd yn y pen draw yn cael ei ymgorffori yn y Cynllun Cludiant Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru.

Mae'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yn edrych ar ein hawliau tramwy lleol, ac yn nodi sut byddwn yn eu rheoli a'u gwella dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.  Mae'r cynllun yn cynnwys asesiad o'r canlynol:

  • pa mor dda mae'r hawliau tramwy lleol yn diwallu anghenion y cyhoedd, yn awr ac yn y dyfoldol
  • y ffordd y mae hawliau tramwy yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymarfer corff a mathau eraill o hamddena yn yr awyr agored
  • pa mor hygyrch yw hawliau tramwy i bobl sy'n ddall neu'n rhannol ddall, neu sydd â phroblemau symudedd

Buom yn ymgynghori gydag aelodau o'r cyhoedd a phobl â diddordeb i wneud yr asesiad hwn, ac mae'r canffyddiadau yn ffurfio sail i'r cynllun.

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2008-2018 (PDF, 716KB)

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2008-2018: Asesiad (Crynodeb) (PDF, 25KB)

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2008-2018: Adroddiad Asesiad (PDF, 1.6MB) (ar gael yn Saesneg yn unig)