Gwasanaeth Cwnsela Annibynnol Pobl Ifanc Sir Ddinbych: Polisi Cyfryngau Cymdeithasol

Mae defnyddio cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu electronig yn ddull cyfathrebu cyfleus a dyma’r dull a ffefrir yn aml.  Fodd bynnag, nid yw preifatrwydd a chyfrinachedd wedi’u gwarantu gyda’r dulliau cyfathrebu hyn.  Ni fydd cwnselwyr o Wasanaeth Cwnsela Annibynnol Pobl Ifanc Sir Ddinbych yn cyfathrebu gyda chleientiaid na chysylltu â nhw drwy gyfryngau cymdeithasol na phlatfformau rhwydweithio fel;

  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn
  • Google
  • Instagram
  • Pinterest

Hefyd, os byddant yn canfod eu bod wedi creu perthynas ar-lein gyda chleient ar ddamwain, byddant yn canslo’r berthynas honno. Mae hyn oherwydd y risgiau sylweddol o ran diogelwch y gall y mathau hyn o gysylltiadau cymdeithasol didaro eu creu i gleientiaid.

Gall ein cwnselwyr gymryd rhan ar amrywiaeth o rwydweithiau cymdeithasol at ddibenion personol, ond nid yn eu capasiti proffesiynol fel Cwnselydd neu therapydd. Os oes gan gleient bresenoldeb ar-lein, mae posibilrwydd y bydd cleient yn dod ar draws cwnselydd ar ddamwain. Os bydd hynny’n digwydd, gofynnwn i gleientiaid drafod hyn gyda’r cwnselydd yn ystod eich sesiwn nesaf. Rydym wedi ymchwilio’r mater hwn ac wedi dod i’r casgliad fod gan achosion o gyfathrebu ar gyfryngau cymdeithasol gyda chleientiaid botensial uchel i beryglu’r berthynas broffesiynol. Gofynnwn i gleientiaid beidio â cheisio cysylltu â chwnselwyr fel hyn.

Os oes gan gleient unrhyw gwestiynau am unrhyw beth yn y polisi hwn, dylent gael eu codi gyda’r cwnselydd. Wrth i dechnoleg newydd ddatblygu a’r rhyngrwyd newid, mae’n bosibl y bydd adegau pan fydd angen i DIYPCS ddiweddaru’r polisi. Rhoddir gwybod i gleientiaid yn ysgrifenedig am unrhyw newidiadau o ran polisi. Caiff y dudalen we ei diweddaru hefyd i adlewyrchu unrhyw newidiadau.

Cyfeillio

Ni fydd cwnselwyr DIYPCS yn derbyn gwahoddiadau gan gleientiaid presennol na blaenorol i gymryd rhan yn eu rhwydweithiau cymdeithasol ar-lein, ac ni fyddant yn gwahodd cleientiaid i fod yn rhan o’u rhwydweithiau cymdeithasol ar-lein personol eu hunain chwaith (e.e. Facebook, Twitter ac ati).

Gall yr arfer o ychwanegu cleientiaid fel ffrindiau neu gysylltiadau ar y gwefannau hyn beryglu cyfrinachedd cleientiaid a phreifatrwydd DIYPCS. Gallai hefyd gymylu ffiniau’r berthynas therapiwtig. Os bydd angen i gleient gysylltu â’i gwnselydd rhwng sesiynau, gofynnwn iddynt anfon e-bost, ffonio neu anfon neges destun (yn dibynnu ar ddewis y cleient a’r cwnselydd).

Os oes gan gleient gwestiwn am hyn, byddwn yn gofyn iddynt ei godi gyda’u cwnselydd yn eu sesiwn nesaf.

Dilyn

Nid yw cwnselwyr DIYPCS yn dilyn cleientiaid presennol na blaenorol ar flogiau na Twitter. Os oes pethau o dy fywyd ar-lein rwyt ti am eu rhannu gyda dy gwnselydd, tyrd â nhw i dy sesiwn lle gallwn edrych arnynt a’u harchwilio gyda’n gilydd, yn ystod yr awr therapi.

Rhyngweithio

Peidiwch â defnyddio’r cyfleuster negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol neu safleoedd rhwydweithio i gysylltu â chwnselydd. Nid yw’r safleoedd hyn yn ddiogel, ac efallai na fydd y negeseuon yn cael eu darllen yn syth. Peidiwch â defnyddio negeseuon ar ‘waliau’, atebion drwy @ neu ffyrdd eraill o ymgysylltu â chwnselydd yn gyhoeddus ar-lein os yw perthynas therapiwtig wedi cael ei sefydlu. Gall cysylltu gyda chwnselydd drwy’r ffyrdd hyn gyfaddawdu preifatrwydd, a gall fod angen cofnodi cynnwys y cyswllt yma a'i gadw yng nghofnodion y cleient.

Mae cwnselwyr DIYPCS yn cydnabod y gallai edrych ar weithgarwch ar-lein cleientiaid heb eu caniatâd, a heb drefniadau pendant ar gyfer pwrpas penodol gael dylanwad negyddol ar y berthynas waith. Os oes pethau o’u bywyd ar-lein y mae cleient eisiau eu rhannu gyda chwnselydd, gellir trafod y rhain yn y sesiynau lle bydd modd edrych arnynt a’u harchwilio gyda’n gilydd, yn ystod yr amser therapi.

Gwefannau

Mae gan DIYPCS dudalennau ar wefan Cyngor Sir Ddinbych i gael gwybodaeth am ddim am ein harferion gwaith.

Gweld tudalennau gwe'r Gwasanaeth Cwnsela Annibynnol Pobl Ifanc Sir Ddinbych

Fe allwch gysylltu â ni os hoffech ragor o wybodaeth am ein gwasanaeth.

Defnyddio peiriannau chwilio

Ni fydd cwnselwyr DIYPCS yn defnyddio porwyr ar y we i gasglu gwybodaeth am gleient heb ganiatâd. Rydym ni’n credu bod hyn yn mynd yn erbyn eich hawliau preifatrwydd, fodd bynnag, rydym yn deall y gallai rhywun ddewis casglu gwybodaeth am gwnselydd yn yr un modd.

Mae cymaint o wybodaeth ar gael am unigolion ar-lein, gall yr unigolyn wybod am y rhan fwyaf ohono, ond gall ychydig o’r wybodaeth fod yn hollol anghywir neu’n anhysbys. Os yw cleient yn dod o hyd i wybodaeth am gwnselydd drwy bori ar y we, neu mewn unrhyw fodd arall, gellir trafod hyn gyda’r cwnselydd yn ystod sesiwn i drafod ei effaith posib ar unrhyw driniaeth.

Er nad yw’n arfer rheolaidd i gwnselwyr bori ar y we i chwilio am gleientiaid ar Google neu Facebook neu unrhyw beiriannau chwilio eraill, bydd eithriadau prin iawn yn digwydd pe cyfyd argyfwng, e.e. os oes gan gwnselydd reswm i amau bod cleient mewn perygl neu os yw’n angenrheidiol fel rhan o sicrhau lles. Mae’r rhain yn sefyllfaoedd anarferol a phetai cwnselwyr yn gorfod defnyddio’r ffyrdd hyn, byddant yn cael eu cofnodi’n llawn, ac yn cael eu trafod efo’r unigolyn cyn gynted ag y bo modd.

Recordio sesiynau cwnsela fideo neu sain

Mae diogelu cyfrinachedd yn golygu nad ydym yn caniatáu i gleientiaid recordio na phostio/cyhoeddi recordiad neu ran o recordiad o sesiwn gwnsela ar-lein. Mae’r un fath yn wir am sgyrsiau testun byw neu unrhyw ohebiaeth e-bost.

Gwasanaethau lleoliad

Os yw cleient yn defnyddio gwasanaethau lleoliad ar ffôn symudol, efallai y byddai’r cleient yn hoffi gwybod am y materion preifatrwydd sydd ynghlwm â defnyddio’r gwasanaethau hyn. Os oes unrhyw gwestiynau neu bryderon, gall cleient dynnu sylw eu cwnselydd atynt er mwyn cael eu trafod.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gan gleient unrhyw gwestiynau neu bryderon am unrhyw un o’r polisïau neu’r gweithdrefnau hyn, neu am unrhyw ddarpar ryngweithio ar-lein, gallant dynnu sylw eu cwnselydd atynt er mwyn cael eu trafod.

Pryderon a chwyn

Mae’r berthynas therapiwtig yn hanfodol i lwyddiant therapi. Mae’r berthynas mor bwysig mewn cwnsela fel bod rhaid sicrhau bod cyd-fynd. Ni fydd pob cwnselydd yn cyd-fynd yn dda â phob cleient. Ni fydd beth sy’n gweithio i un unigolyn mewn therapi yn gweithio i unigolyn arall. Mae cwnsela yn brofiad goddrychol ac unigryw.

Os oes pryderon am gwnselydd neu sesiwn, y dull gorau fyddai trafod y pryder hwnnw wyneb yn wyneb efo'r cwnselydd. Gall trafod adweithiau gyda’ch cwnselydd, boed nhw’n rhai cadarnhaol neu’n rhai negyddol, fod yn rhan bwysig o therapi.

Hyd yn oed petai cleient yn dewis peidio dychwelyd at gwnselydd, mae’n bwysig gadael i’r cwnselydd wybod yn union pam nad oeddent yn gweddu â’i gilydd. Wrth wneud hyn, gall ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol i’r cwnselydd a gallant ddatrys unrhyw broblem gan gau pen y mwdwl hefyd.

Weithiau, nid yw’r cleientiaid yn teimlo’n ddiogel, neu’n teimlo na fedrant siarad yn uniongyrchol â’u cwnselydd. Bryd hynny, mae ganddynt y dewis o gysylltu â DIYPCS.

Os oes mater moesegol neu bod cleient yn teimlo bod rhywbeth o’i le, y ffordd orau i barhau fyddai cwyno drwy ddilyn gweithdrefn gwyno’r DIYPCS.

Sylwch, wrth gyflwyno cwyn swyddogol, mae’n bosib i fanylion y therapi gael eu rhannu hefyd. Gellir cael gwybodaeth am rifau cofrestru ein cwnselwyr a’r corff cofrestredig drwy anfon neges at y swyddogion gweinyddol.

Mae diogelu cyfrinachedd yn golygu nad yw ein cwnselwyr yn gallu dweud wrth bobl bod rhywun yn gleient iddyn nhw. Ond mae croeso i gleientiaid ddweud wrth unrhyw un pwy yw eu cwnselydd. Peidiwch â sgorio neu adolygu gwaith cwnselydd ar unrhyw wefan tra byddwch yn parhau i gael triniaeth. Drwy wneud hynny, byddai'n gallu amharu'n sylweddol ar eich gallu i weithio â'ch gilydd a gallai beryglu preifatrwydd.