Canol Dref Y Rhyl: sesiwn galw heibio ar gyfer gwelliannau i'r barth cyhoeddus
Rydym yn trefnu sesiwn galw heibio, er mwyn ddangos i chi ein cynlluniau diweddaraf i gwneud gwelliannau i'r barth cyhoeddus yng nghanol dref Y Rhyl
Mae'r cynlluniau yn gynnwys:
- Gwelliannau i'r Stryd Fawr
- Gwelliannau i'r ardal y promenâd o amgylch Tŵr y Cloc.
Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth y DU dan rownd 3 cyllid y Gronfa Ffyniant Bro. Bydd y prosiect yn rhan o Falchder Bro ac Amgylchedd Naturiol Sir Ddinbych. Mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy'r dolen gwe canlynol:
Cyngor Sir Ddinbych | Cronfa Ffyniant Bro: Parth Cyhoeddus Canol Tref y Rhyl
Beth ydym yn ei wneud?
Rydym yn trefnu sesiwn galw heibio ar Dydd Mawrth 9 Rhagfyr 2025 i ymddangos ein cynlluniau i gwella'r barth cyhoeddus yng nghanol y dref
Nod y prosiect yw uwchraddio nodweddion fel palmentydd, plannu a dodrefn stryd, er mwyn creu amgylchedd mwy croesawgar a phleserus i bawb.
Pam ydym ni'n gwneud hyn?
Pwrpas yr ymgynghoriad yw eich galluogi i ddod i weld y cynlluniau diweddaraf ar gyfer y cynllun a rhoi unrhyw adborth sydd gennych.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Hoffem glywed eich barn
Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?
Gobeithiwn, drwy ddeall beth sy'n bwysig i bobl sy'n byw, gweithio neu ymweld a'r Rhyl yn rheolaidd, y byddwn yn gallu cyflwyno gwelliannau a fydd yn helpu i wneud y dref yn lie mwy deniadol ac yn annog pobl i dreulio mwy o amser yno.
Sut ellwch chi gymryd rhan?
Dewch i'n sesiwn galw heibio
Cynhelir ein sesiwn galw heibio ar Dydd Mawrth 9 Rhagfyr 2025.
Cyfeiriad y sesiwn galw heibio yw
Canolfan Ieuenctid Y Rhyl,
East Parade,
Rhyl,
Ll18 3AF
Mae'r sesiwn galw heibio yn dechrau am 1pm ac yn ggorffen am 7pm.
Yn y sesiwn galw heibio byddwch yn gallu:
- Gweld cynlluniau / deunyddiau arddangos ar gyfer ein prosiect
- Siarad â swyddogion prosiect / ymgynghorwyr ynglŷn â’r prosiect
- Gofyn cwestiynau
Methu dod?
Os nad ydych gallu dod i'r sesiwn galw heibio, peidiwch â pheoni. Mae copïau o'r faterion arddangos yn eu gael ar y tudalen gwefan hon, ac yn Llyfrgell Y Rhyl
Gallwch darparu eich adborth trwy'r ffurflen adborth ar-lein isod:
Ffurflen adborth ar-lein (gwefan allanol)
Gellir cael copïau papur o'r arolwg a'u dychwelyd yma:
Llyrfgell a Siop Un Alwad Y Rhyl,
Stryd yr Eglwys,
Y Rhyl
LL18 3AA
Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw: 5 Ionawr 2026.
Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?
This information will be available soon.
Adborth
Dewch yn ôl ar gyfer canlyniadau