Cais i ddod yn safle cymeradwy ar gyfer priodasau: Plas Isaf Country Barn, Corwen
Cyngor Sir Ddinbych
Deddf Priodasau 1949
Deddf Partneriaeth Sifil 2004
Rhoddir rhybudd yn unol â'r uchod fod cais wedi’i gyflwyno gan LIZA JENNIFER FRANCIS ar gyfer yr eiddo a adwaenir fel Plas Isaf Country Barn, Plas Isaf, Corwen LL21 0EW, am ganiatâd i weinyddu priodasau a chofrestru phartneriaethau sifil yn yr eiddo.
Bydd y cais a'r cynllun ynghlwm ar gael i'w harchwilio am 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad hwn yn swyddfa'r Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN.
Gall unrhyw unigolyn ysgrifennu at y cyfeiriad uchod yn ystod y cyfnod hwn i wrthwynebu caniatáu'r cais, gyda'r rhesymau dros hynny.
Catrin Roberts
Y Swyddog Priodol
Gall unrhyw unigolyn ysgrifennu gan cwblhau'r ymholiad isod neu at y cyfeiriad uchod yn ystod y cyfnod hwn i Wrthwynebu caniatáu'r cais, gyda'r rhesymau dros hynny.
- Dyddiad cychwyn: 3 Chwefror 2026
- Dyddiad Gorffen: 24 Chwefror 2026
Dweud eich dweud: Cais i ddod yn safle cymeradwy ar gyfer priodasau: Plas Isaf Country Barn (gwefan allanol)