Cais i ddod yn safle cymeradwy ar gyfer priodasau:
Trevor Hall, Llangollen
(wedi'i cwblhau)
Mae'r ymgynghoriad hwn yn nawr ar gau
Cyngor Sir Ddinbych
Deddf Priodasau 1949
Deddf Partneriaeth Sifil 2004
Rhoddir rhybudd yn unol â'r uchod fod cais wedi’i gyflwyno gan L Parker & Co. Ltd ar gyfer yr eiddo a adwaenir fel Trevor Hall, Trevor Hall Road, Llangollen, Denbighshire LL20 7UP, am ganiatâd i weinyddu priodasau a chofrestru phartneriaethau sifil yn yr eiddo.
Bydd y cais a'r cynllun ynghlwm ar gael i'w harchwilio am 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad hwn yn swyddfa'r Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN.
Gall unrhyw unigolyn ysgrifennu at y cyfeiriad uchod yn ystod y cyfnod hwn i wrthwynebu caniatáu'r cais, gyda'r rhesymau dros hynny.
Catrin Roberts
Y Swyddog Priodol
Gall unrhyw unigolyn ysgrifennu gan cwblhau'r ymholiad isod neu at y cyfeiriad uchod yn ystod y cyfnod hwn i Wrthwynebu caniatáu'r cais, gyda'r rhesymau dros hynny.
- Dyddiad cychwyn:21 Mai 2026
- Dyddiad Gorffen:11 Mehefin 2026
Adborth
Nid ydym wedi dderbyn unrhyw ymatebion i'r ymgynghoriad hwn.
Bydd yr eiddo hwn bellach wedi'i drwyddedu i fyny at 11 Mehefin 2027