Cynllun Amddiffyn Arfordir y Rhyl Cam 2 - Pentref y Plant

Rydym yn gwahodd trigolion, busnesau ac ymwelwyr i ddigwyddiad ymgynghori cyhoeddus ddydd Mercher 12 Awst 2026, ym Marchnad y Frenhines rhwng 2.00pm a 7.00pm, i weld ein cynigion ar gyfer gwella Pentref Plant presennol y Rhyl.

Beth ydym yn ei wneud?

Rydym yn cynnig cynllun gwelliannau ar gyfer ardal bresennol Pentref y Plant yng nghanol tref y Rhyl.

Datblygwyd y cynigion mewn ymateb i ddigwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ac ymgysylltu budd-ddeiliad blaenorol, lle daeth blaenoriaeth glir a chyson i’r amlwg, sef gwella’r Rhyl fel cyrchfan a chreu cysylltiad cryfach a mwy deniadol rhwng canol y dref a’r promenâd.

Rydym wedi gwrando ar eich adborth yn dilyn yr ymgynghoriadau a’r gweithgareddau ymgysylltu blaenorol. Gan ddatblygu ar eich sylwadau, rydym bellach yn edrych ar opsiynau i wella’r ardal o amgylch Pentref Plant presennol y Rhyl.

Nod y prosiect yw trawsnewid yr ardal yn fan digwyddiadau hyblyg o safon uchel y gellir ei mwynhau drwy gydol y flwyddyn. Mae’r gwelliannau a gynigir yn cynnwys gwneud yr ardal yn haws i bawb gael mynediad ati, gerddi teras a ger y dŵr, gwell tirlunio, a mannau cyhoeddus newydd sy’n creu amgylchedd mwy croesawgar, deniadol a phleserus i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Mae’r prosiect yn gysylltiedig â phrosiect amddiffyn yr arfordir, felly mae yna gyfyngiadau ar sut y gellir gwario arno.

Rydym yn annog pawb i ddod draw i gael golwg ar y cynigion a rhannu eu barn, a fydd yn ein helpu i lunio dyfodol yr ardal bwysig hon yn y Rhyl.

Pam ydym ni'n gwneud hyn?

Pwrpas yr ymgynghoriad yw dangos dyluniadau posib o’n dyheadau ar gyfer y man digwyddiadau hyblyg hwn, ac i chi roi’ch adborth i ni.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

Fe hoffem ni glywed eich barn am y cynigion. Bydd eich adborth chi’n helpu llywio datblygiad y prosiect, ac yn sicrhau bod y cynigion yn adlewyrchu anghenion y gymuned.

Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?

Drwy ddod i ddeall beth sy’n bwysig i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y Rhyl, neu’n ymweld â’r ardal yn rheolaidd, ein gobaith yw gallu cyflawni gwelliannau a fydd yn helpu gwneud y dref yn fan mwy deniadol ac annog pobl i dreulio mwy o amser yno.

Sut ellwch chi gymryd rhan?

Dewch i'n sesiwn galw heibio

Cynhelir ein sesiwn galw heibio ar Dydd Mercher 12 Awst 2026.

Cyfeiriad y sesiwn galw heibio yw

Marchnad y Frenhines,
Heol Sussex,
Y Rhyl,
LL18 1SE

Mae'r sesiwn galw heibio yn dechrau am 2.00pm ac yn gorffen am 7.00pm

AYn y sesiwn galw heibio byddwch yn gallu:

  • Gweld cynlluniau / deunyddiau arddangos ar gyfer ein prosiect
  • Siarad â swyddogion prosiect / ymgynghorwyr ynglŷn â’r prosiect
  • Gofyn cwestiynau

Cymerwch ran yn ein harolwg

Gellir cwblhau ein harolwg ar-lein.

Online form: Rhyl Coastal Defence Phase 2 - Children’s Village (external website)

Gallwch gael copïau papur o’r arolwg a’u dychwelyd yma:

Llyfrgell a Siop Un Alwad y Rhyl
Stryd yr Eglwys
Y Rhyl
LL18 3AA

Gallwch anfon neges e-bost at: RhylPublicRealmQueries@balfourbeatty.com

Gallwch ysgrifennu at:

Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch ymateb yw dydd Gwener 21 Awst 2026.

Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?

Byddwn yn casglu’r holl ymatebion i’r arolwg ac yn darparu adborth cyn gynted ag y gallwn ni.

Adborth

Dewch yn ôl ar gyfer canlyniadau.