Dewch i siarad: Byw yn Sir Ddinbych

Mae Dewch i siarad: Byw yn Sir Ddinbych yn arolwg am breswylwyr sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae eich llais yn bwysig.

Trwy ymateb i'r arolwg hwn byddwch yn helpu Cyngor Sir Ddinbych i ddeall yn well:

  • Beth sy'n bwysig i chi
  • Eich profiad o'ch ardal leol
  • Sut rydych chi'n gweld ac yn rhyngweithio â'r cyngor

Yn y pen draw, bydd eich barn yn helpu i lunio eich ardal leol a'ch gwasanaethau lleol. Felly, mae'n bwysig clywed gan gymaint o breswylwyr â phosibl. Anogwch eich teulu, ffrindiau a chymdogion i gwblhau'r arolwg hwn.

Sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynnal yr arolwg hwn ar ran Cyngor Sir Ddinbych. Bydd gwybodaeth a allai eich adnabod yn cael ei gweld gan Gyngor Sir Ddinbych a CLlLC yn unig. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw am 3 blynedd o'r dyddiad y mae'r arolwg yn cau yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR). Bydd eich cyfeiriad IP yn cael ei gasglu i helpu i adnabod ymatebion dyblyg neu amhriodol.

Mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei ddefnyddio ym mholisi preifatrwydd y Cyngor a pholisi preifatrwydd CLlLC.

Cwblhau'r arolwg

Ar-lein

Arolwg: Dewch i siarad: Byw yn Sir Ddinbych (gwefan allanol)

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau.

A fyddech chi cystal ag ymateb erbyn 31/03/2026.

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach, neu os cewch unrhyw anhawster wrth gwblhau’r arolwg ar-lein, e-bostiwch timcynlluniostrategol@sirddinbych.gov.uk.

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau technegol, cysylltwch ag surveys@wlga.gov.uk neu ffoniwch 029 2090 9500.