Fforwm Tacsis Sir Ddinbych
Ydych chi'n ddefnyddiwr neu gweithredwr tacsis yn Sir Ddinbych? Cofrestru am ein Fforwm Tacsis newydd.
Beth ydym yn ei wneud?
Rydym yn sefydlu Fforwm Tacsis yn Sir Ddinbych.
Bydd y Fforwm yn gyfarfod neu'n weithdy a gynhelir unwaith y flwyddyn, cyn mae'r Cyngor yn adolygu'u dabl o daryffau ar gyfer cerbydau hacni.
Pam ydym ni'n gwneud hyn?
Trwyddedu Cyngor Sir Dinbych wedi gofyn Swyddogion yn y tîm trwyddedu sefydlu 'grŵp gweithio' i ddeall sut y gallai newidiadau i brisiau tacsi effeithio ar fusnesau tacsi a'u cwsmeriaid.
Rydym yn rhagweld y bydd y Fforwm yn cynnwys aelodaeth yn cynnwys:
- Tîm trwyddedu Cyngor Sir Dinbych
- Cynghorwyr Sir Ddinbych
- Gweithredwyr neu perchnogion Cerbydau Hacni
- Gweithredwyr neu perchnogion Cerbydau Hurio Preifat
- Defnyddwyr tacsi
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Yn y cyfarfod cyntaf rydym yn bwriadu sefydlu:
- Cylch gorchwyl ar gyfer y Fforwm, gan gynnwys:
- Aelodaeth
- Amlder cyfarfodydd
- Pŵer i wneud argymhellion i'r Cyngor
- Sut mae costau byw wedi cael effeithio ar fasnach busnesau dacsis
- Sut mae costau byw wedi effeithio ar ddewisiadau cwsmeriaid
- Sut gall y Cyngor ddod o hyd i gydbwysedd rhwng cefnogi busnesau tacsi i wneud elw, a chynrychioli gwerth da i ddefnyddwyr tacsi?
- Sut y gallwn wella Fforymau ac ymgynghoriadau ar brisiau cerbydau hacni yn y dyfodol
Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?
Yn ystod yr ymgynghoriad adolygu prisiau diwethaf yn 2025, rydym wedi dderbyn nifer o ymatebion gan perchenogion busnesau tacsis hacni nid oedd y cynnydd arfaethedig i brisiau yn ddigon.
Ar y llaw arall, yn ystod yr ymgynghoriad adolygu prisiau blaenorol yn 2023, rydym wedi dderbyn ymatebion gan perchenogion busnesau hacni roedd y cynnydd arfaethedig i brisiau yn ormod, ac roedd perchenogion tacsis yn poeni gallai'r cyngor yn prisio trigolion allan o ddefnyddio tacsis yn gyfan gwbl.
Rydym yn gobeithio, trwy sefydlu Fforwm a chaniatáu i weithredwyr tacsis a defnyddwyr tacsis ddod ynghyd a rhannu eu profiadau a'u pryderon gyda ni, y gallwn greu tabl o ffioedd bob blwyddyn sy'n gweithio (cymaint â phosibl) i bawb.
Sut ellwch chi gymryd rhan?
Cymerwch ran yn ein holiadur
Mae gennym holiaduron ar wahân ar gyfer:
- Perchenogion/gweithredwyr busnesau tacsis hacni
- Perchenogion/gweithredwyr busnesau tacsis preifat
- Defnyddwyr tacsis
Bydd yr holiadur yn gofyn cwestiynau ynghylch y themâu canlynol:
- Pa fathau o deithiau ydych chi'n eu gwneud y fwyaf?
- Sut mae costau byw wedi cael effaith arnoch chi?
- Sut ydych chi'n meddwl y dylai'r Cyngor geisio dod o hyd i gydbwysedd rhwng anghenion gyrwyr tacsi i gwneud incwm teg, ac anghenion cwsmeriaid i gael gwerth da am gwario eu harian?
Ar ddiwedd yr holiadur, bydd gennych yr opsiwn o gofrestru i gymryd rhan yn y Fforwm. Mae hyn yn ddewisol, gallwch gwblhau'r holiadur ar ben ei hun os dymunwch.
Bydd cyfranogwyr y Fforwm yn cael eu dewis ar hap o blith ymatebwyr y holiaduron sydd wedi optio i mewn, gan sicrhau bod cymaint o'r sir a chynifer o anghenion demograffig â phosibl yn cael eu cynnwys.
Rydym yn rhagweld y bydd y Fforwm yn digwydd ym mis Mawrth 2026 a byddwn yn cysylltu â chi yn nes at yr amser i roi rhagor o fanylion. Gall Fforymau yn y dyfodol ddigwydd yn gynharach yn y flwyddyn i gyd-fynd ag amserlen cyfarfodydd y Pwyllgor Trwyddedu.
Holiadur ar gyfer perchenogion busnesau Cerbyd Tacsis Hacni (gwefan allanol)
Holiadur ar gyfer perchenogion busnesau Tacsis Hurio Prefiat (gwefan allanol)
Holiadur ar gyfer defnyddwyr tacsis (gwefan allanol)
Gallwch casglu a ddychweled copïau papur o'r holiaduron o unrhyw Lyfrgell Cyngor Sir Dinbych
Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw: Dydd Sul 1 Mawrth 2026.
Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?
Bydd pawb sy'n cwblhau'r holiadur yn derbyn crynodeb o ganlyniadau'r holiaduron, a chrynodeb o nodiadau o gyfarfod y Fforwm ar ôl iddo ddigwydd.
Os byddwch yn dewis ymuno, gallwn hefyd gysylltu â chi pan fydd adolygiad blynyddol prisiau Cerbydau Hacni yn cael ei gyflwyno i ymgynghoriad.
Adborth
Dewch yn ôl ar gyfer canlyniadau