Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Dim Aros ar Unrhyw Adeg, Abbey Road (Rhuddlan)

Rydym yn ymgynghori ar Orchymyn Rheoleiddio Traffig ar gyfer Abbey Road yn Rhuddlan, a'i effaith fydd dim aros ar unrhyw adeg.

  • Mae’r rhan o ffordd sydd dan sylw yn rhan fer o Abbey Road, yn union i’r de o’r gyffordd â Lôn Hylas
  • Bydd y cyfyngiadau arfaethedig wedi eu marcio â llinellau melyn dwbl
  • Mae’r cyfyngiadau arfaethedig yn golygu na chewch barcio na gadael eich cerbyd wedi ei barcio ar y ffordd yn yr ardal dan sylw
  • Y rheswm dros wneud y cynnig yw er mwyn atal parcio ar ochr orllewinol rhan gul, fer o Abbey Road i sicrhau bod cerbydau mawr sy’n mynd i’r fferm a’r safle carafanau / gwersylla ar ben deheuol Abbey Road yn gallu teithio’n ddiogel ac yn ddirwystr.

Beth yw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO)?

Mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn ddogfen gyfreithiol sy’n cyfyngu neu’n gwahardd y defnydd o’r rhwydwaith priffyrdd, yn unol â Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (gwefan allanol).

Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn ein helpu i reoli’r rhwydwaith priffyrdd i holl ddefnyddwyr y ffyrdd, yn cynnwys cerddwyr a’u nod yw gwella diogelwch ffyrdd a mynediad at gyfleusterau yn yr ardaloedd lle cânt eu cynnig.

Gellir ond cynnig Gorchymyn Rheoleiddio Traffig am y rhesymau a amlinellir yn y ddeddfwriaeth, a gellir ond cynnig cynllun os yw’r rheoliadau’n caniatáu ar gyfer gosod llinellau ar y ffordd neu’r palmant neu arwyddion priffyrdd priodol ar safle’r cynllun.

Mae enghreifftiau o gynlluniau sy’n ymofyn Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cynnwys:

  • Gwaharddiad Aros
  • Newidiadau i derfynau cyflymder
  • Cyfyngiadau parcio ar y stryd
  • Cyfyngiadau pwysau / lled neu gyfyngiadau eraill ar gerbydau
  • Strydoedd unffordd

Gorfodi

Gall unrhyw un sy’n torri rheolau llinellau melyn dwbl gael Rhybudd Talu Cosb (PCN) o ddim mwy na £70.

Rhannwch eich barn â ni

Cyn gweithredu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, mae’n ofyniad cyfreithiol arnom i ymgynghori â’r cyhoedd am gyfnod o 21 diwrnod. Rydym yn rhoi hysbysiadau cyhoeddus yn y wasg leol ac yn gosod hysbysiadau yn yr ardal leol lle cynigir gweithredu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Rydym hefyd wedi creu’r dudalen hon ar ein gwefan.

Sylwer: dim ond ymatebion fyddai’n golygu bod angen i ni adolygu, addasu neu ddileu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig neu ran ohono sydd arnom eu hangen.

Os ydych yn cytuno â’r Gorchymyn yn union fel y mae wedi’i gynnig, nid oes angen i chi gyflwyno ymateb.

Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu wrthwynebiad i’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig, byddem yn ddiolchgar pe baech cystal ag anfon eich adborth atom drwy:

Cwblhau'r ffurflen adborth ar-lein (gwefan allanol)

Nodwch: Bydd y ffurflen adborth ar gael o Ddydd Mercher 12 Awst 2026 ymlaen.

Ysgrifennu at:

Catrin Roberts,
Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl
Cyngor Sir Ddinbych,
Ffordd Wynnstay
Rhuthun,
LL15 1YN

Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw: 2 Medi 2026.

Dylech gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad a dylid nodi y gall y Cyngor roi ystyriaeth i'r holl sylwadau sy'n cael eu derbyn yng ngŵydd y cyhoedd a gallai sylwedd unrhyw sylwadau ynghyd ag enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y sylwadau hynny fod ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio.