Safonau Iaith Gymraeg

Mae disgwyl i’n cyngor, fel pob cyngor arall yng Nghymru, gydymffurfio â Safonau Iaith Gymraeg sydd wedi cael eu cyflwyno gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Safonau Iaith Gymraeg - Hydref 2015 (PDF, 350KB)

Bwriad y safonau yw sicrhau cydraddoldeb i’r iaith Gymraeg mewn gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru ac yn Sir Ddinbych rydym yn cydnabod y ffaith fod gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gyrchu gwasanaethau yn iaith y maent yn ei ddewis.

Mae’r Safonau wedi cael eu rhannu i bedwar categori Cyflwyno Gwasanaethau; Creu Polisi; Gweithredol a Chadw Cofnod. Mae’r rhain yn cynnwys ystod eang o bethau, yn cynnwys trefnu cyfarfodydd, ateb galwadau ffôn, creu diwylliant dwyieithog o fewn y sefydliad, adnoddau dynol a chreu polisïau newydd.

Dogfennau cysylltiedig