Genedigaethau, priodasau a marwolaethau - Copi o dystysgrif

Os hoffech archebu copi o dystysgrif geni, marwolaeth neu briodas, yna gallwch fynd i'r adran swyddfeydd cofrestru. Bydd angen i chi lenwi un o'r ffurflenni cais canlynol a'i dychwelyd gyda thaliad;

Pryd fyddaf yn derbyn y dystysgrif?

Rydym ni’n gwneud ein gorau i gynhyrchu’r dystysgrif cyn gynted â phosib, ond nid oes modd i ni bob tro ddarparu’r dystysgrif ar ddiwrnod eich ymweliad. Os oes angen tystysgrif arnoch chi ar frys, efallai yr hoffech chi ddefnyddio ein gwasanaeth blaenoriaethu, gwelwch y manylion isod. 

Cost a ffyrdd o dalu

Mae copi o dystysgrif yn costio £11.00. Gallwch dalu:

  • yn bersonol gydag arian neu gerdyn debyd/credyd
  • dros y ffôn gyda cherdyn debyd/credyd
  • neu drwy archeb bost

Gwasanaeth blaenoriaethu

Gallwch ddewis ein gwasanaeth blaenoriaethu am £35 ychwanegol. Gyda’r gwasanaeth yma bydd eich tystysgrif yn cael ei chynhyrchu ar yr un diwrnod y bu i chi wneud y cais (cyn belled â’n bod yn derbyn eich cais cyn 11am). 

Swyddfa Gofrestru Cyffredinol

Gallwch archebu copi o dystysgrif geni, priodas neu farwolaeth o’r Swyddfa Gofrestru Cyffredinol. 

Gwneud cais ar-lein i'r Swyddfa Gofrestru Cyffredinol (gwefan allanol)

Newid tystysgrif

Dim ond dan rhai amgylchiadau yn unig y gellir addasu tystysgrif geni neu farwolaeth wreiddiol, cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.