Uwch Grwner Ei Fawrhydi ar gyfer Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanol)

Uwch Grwner Ei Fawrhydi dros Ogledd Cymru (Dwyrain a Chanol) sy’n cynnwys Sir Ddinbych, Conwy, Wrecsam a Sir y Fflint, yw Mr John Gittins LL.B (Anrh) sy’n Gyfreithiwr.

Mae’r Gwasanaeth Crwner yn ymchwilio i farwolaeth rhywun os ydynt wedi marw yn yr ardal hon, ac:

  • nid yw achos y farwolaeth yn hysbys
  • roedd y farwolaeth yn dreisgar neu’n annaturiol
  • bu farw’r unigolyn yn y carchar, yn nalfa’r heddlu neu dan garchariad arall y wladwriaeth.

Bydd yr heddlu, doctoriaid ysbyty, meddygon teulu unigol a chartrefi gofal yn cyfeirio marwolaeth at y Crwner lle bo angen.

Swyddogion y Crwner

Mae swyddogion y Crwner yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth i’r crwner a nhw fydd y prif bwynt cyswllt ar gyfer teulu’r ymadawedig.

Byddant yn casglu gwybodaeth gan y teulu, yr heddlu, doctoriaid, staff y mortiwari, staff profedigaeth yr ysbyty ac ymgymerwyr angladdau.  Byddant hefyd yn casglu gwybodaeth a dogfennau gan y rhai sydd o bosibl wedi bod ynghlwm â’r farwolaeth, megis tystion, neu unrhyw un y bydd y crwner yn penderfynu sy’n ‘unigolyn â diddordeb’ yn yr ymchwiliad.

Staff Heddlu Gogledd Cymru yw swyddogion y crwner.

Beth fydd y crwner yn ei wneud?

Bydd crwneriaid yn ceisio sefydlu achos meddygol y farwolaeth. Os bydd amheuaeth ynglŷn â’r achos yn dilyn post mortem, fe gynhelir cwest. Os bydd yr archwiliad yn dangos fod y farwolaeth yn un naturiol, mae’n bosib na fydd angen cwest ac fe wnaiff y crwner anfon ffurflen at y cofrestrydd marwolaethau fel y gall perthnasau gofrestru’r farwolaeth ac fel y gall y cofrestrydd roi tystysgrif claddedigaeth.

Swyddfa y Crwner

Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Crwner yn defnyddio'r manylion isod:

Mr John Gittins 
Swyddfa Crwner Ei Mawrhydi,  
Neuadd y Sir 
Ffordd Wynnstay 
Rhuthun 
LL15 1YN 

Ebost: cwrner@sirddinbych.gov.uk 

Ffôn: 01824 708 047