Cwrs Solihull: Deall eich plentyn

Mae’r cwrs Solihull: Deall eich Plentyn yn ffordd ddifyr, sefydledig a dibynadwy i ddeall mwy am eich plentyn.

Logo Cwrs Solihull: Deall eich plentyn

Datblygwyd y cwrs yn y GIG ynghyd ag ymarferwyr rheng flaen gan ganolbwyntio ar:

  • Ymateb i sut mae eich plentyn yn teimlo
  • Sut mae eich plentyn yn datblygu
  • Gwahanol ddulliau magu plant
  • Sut mae eich plentyn yn cyfathrebu
  • Deall ymddygiad eich plentyn
  • Cwsg, hunanreolaeth a dicter

Ar gyfer pwy mae’r cyrsiau?

Mae’r cwrs Solihull: Deall eich Plentyn ar gyfer mamau, tadau, neiniau a theidiau a gofalwyr yn Sir Ddinbych.

Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?

Cynhelir y cyrsiau mewn ysgolion amrywiol ar draws Sir Ddinbych.

Dewiswch un o’r canlynol i ddarganfod pryd a ble mae’r cwrs Solihull: Deall eich Plentyn yn cael ei gynnal:

Dinbych - HWB Dinbych

Dinbych - HWB Dinbych

Yn Ninbych, bydd sesiynau’r ‘cwrs Solihull: deall eich plentyn’ yn cael eu cynnal yn HWB Dinbych rhwng 9:15am a 11:15am ar:

  • Dydd Iau 25 Medi 2025
  • Dydd Iau 2 Hydref 2025
  • Dydd Iau 9 Hydref 2025
  • Dydd Iau 16 Hydref 2025
  • Dydd Iau 23 Hydref 2025
  • Dydd Iau 6 Tachwedd 2025
  • Dydd Iau 13 Tachwedd 2025
  • Dydd Iau 20 Tachwedd 2025
  • Dydd Iau 27 Tachwedd 2025

Sut i gyrraedd

Cyfeiriad HWB Dinbych yw:

Smithfield Road
Dinbych
LL16 3RG

Prestatyn - Ysgol Clawdd Offa

Prestatyn - Ysgol Clawdd Offa

Ym Mhrestatyn, bydd sesiynau’r ‘cwrs Solihull: deall eich plentyn’ yn cael eu cynnal yn Ysgol Clawdd Offa rhwng 9:15am a 11:15am ar:

  • Dydd Mercher 24 Medi 2025
  • Dydd Mercher 1 Hydref 2025
  • Dydd Mercher 8 Hydref 2025
  • Dydd Mercher 15 Hydref 2025
  • Dydd Mercher 22 Hydref 2025
  • Dydd Mercher 5 Tachwedd 2025
  • Dydd Mercher 12 Tachwedd 2025
  • Dydd Mercher 19 Tachwedd 2025
  • Dydd Mercher 26 Tachwedd 2025

Sut i gyrraedd

Canfod sut i gyrraedd Ysgol Clawdd Offa

Rhuthun - Ysgol Borthyn

Rhuthun - Ysgol Borthyn

Yn Rhuthun, bydd sesiynau’r ‘cwrs Solihull: deall eich plentyn’ yn cael eu cynnal yn Ysgol Borthyn rhwng 9:15am a 11:15am ar:

  • Dydd Iau 25 Medi 2025
  • Dydd Iau 2 Hydref 2025
  • Dydd Iau 9 Hydref 2025
  • Dydd Iau 16 Hydref 2025
  • Dydd Iau 23 Hydref 2025
  • Dydd Iau 6 Tachwedd 2025
  • Dydd Iau 13 Tachwedd 2025
  • Dydd Iau 20 Tachwedd 2025
  • Dydd Iau 27 Tachwedd 2025

Sut i gyrraedd

Canfod sut i gyrraedd Ysgol Borthyn

Y Rhyl - Ysgol Emmanuel

Y Rhyl - Ysgol Emmanuel

Yn Ysgol Emmanuel, y Rhyl, bydd sesiynau’r ‘cwrs Solihull: deall eich plentyn’ yn cael eu cynnal rhwng 12:45pm a 2:45pm ar:

  • Dydd Mercher 24 Medi 2025
  • Dydd Mercher 1 Hydref 2025
  • Dydd Mercher 8 Hydref 2025
  • Dydd Mercher 15 Hydref 2025
  • Dydd Mercher 22 Hydref 2025
  • Dydd Mercher 5 Tachwedd 2025
  • Dydd Mercher 12 Tachwedd 2025
  • Dydd Mercher 19 Tachwedd 2025
  • Dydd Mercher 26 Tachwedd 2025

Sut i gyrraedd

Canfod sut i gyrraedd Ysgol Emmanuel

Sut mae cymryd rhan?

Mae’r cwrs yn rhad ac am ddim, ond bydd yn rhaid i chi wneud cais am le i fynychu. Bydd yn rhaid i chi hefyd fynychu’r 9 sesiwn er mwyn cwblhau’r cwrs.

Gwneud cais am le i fynychu’r cwrs Solihull: Deall eich plentyn

Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych

Os ydych chi ar Facebook, gallwch chi ymuno â grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych i gael syniadau a chyngor addysgiadol i blant dan oed ysgol.

Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych (gwefan allanol)