Cyswllt Teulu: Sesiynau Iaith a Chwarae
Mae sesiynau Iaith a Chwarae yn cael eu cynnal am ddim ledled Sir Ddinbych Caiff y sesiynau eu rhedeg gan Weithwyr Cyswllt Teulu bob wythnos yn ystod y tymor.
Mae ein holl sesiynau’n cynnwys gweithgareddau a gynlluniwyd i helpu plant i feithrin sgiliau iaith a chymdeithasu mewn amgylchedd hwyliog a chyfeillgar i’w paratoi ar gyfer mynd i’r ysgol.

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?
Mae’r sesiynau Iaith a Chwarae ar gyfer plant 1 i 3 oed.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?
Cynhelir y sesiynau mewn ysgolion amrywiol ledled Sir Ddinbych.
Oherwydd newidiadau yn ein tîm, fydd sesiynau Iaith a Chwarae yn ail-ddechrau ar ôl gwyliau hanner tymor Hydref.
Dewiswch un o’r ardaloedd canlynol i weld pryd a lle mae’r sesiynau Iaith a Chwarae yn cael eu cynnal:
Ysgol Emmanuel (y Rhyl)
Ysgol Emmanuel
Cynhelir y sesiynau Iaith a Chwarae yn Ysgol Emmanuel o 9:15am tan 10:45am ar:
- Dydd Iau 6 Tachwedd 2025
- Dydd Iau 13 Tachwedd 2025
- Dydd Iau 20 Tachwedd 2025
- Dydd Iau 4 Rhagfyr 2025
- Dydd Iau 11 Rhagfyr 2025
Sut i gyrraedd
Canfod sut i gyrraedd Ysgol Emmanuel
Ysgol Y Parc (Dinbych)
Ysgol Y Parc
Cynhelir y sesiynau Iaith a Chwarae yn Ysgol y Parc o 9:15am tan 10:45am ar:
- Dydd Gwener 7 Tachwedd 2025
- Dydd Gwener 14 Tachwedd 2025
- Dydd Gwener 21 Tachwedd 2025
- Dydd Gwener 5 Rhagfyr 2025
- Dydd Gwener 12 Rhagfyr 2025
Sut i gyrraedd
Canfod sut i gyrraedd Ysgol Y Parc
Sut i gymryd rhan
Gallwch ddod â’ch plentyn (1 i 3 oed) i unrhyw sesiwn Iaith a Chwarae o’ch dewis (nid oes angen i chi archebu lle o flaen llaw).
Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych
Os ydych chi ar Facebook, gallwch chi ymuno â grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych i gael syniadau a chyngor addysgiadol i blant dan oed ysgol.
Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych (gwefan allanol)