Grwpiau rhieni a phlant bach

Mae grwpiau rhieni a phlant bach ar gyfer plant sydd dan ddyflwydd a hanner gan amlaf, a rhiant neu ofalwr efo nhw. 

Gall plant chwarae efo’i gilydd a mwynhau cwmni plant eraill o’r un oed â nhw. Gall rhieni gymdeithasu, ffurfio cyfeillgarwch a rhannu pryderon mewn amgylchedd anffurfiol. 

Grwpiau Rhieni a Phlant Bach yn Sir Ddinbych

Chwiliwch am Grwpiau Rhieni a Phlant Bach ar Dewis (gwefan allanol)

Sut i sefydlu grŵp rhieni a phlant bach

Os hoffech chi sefydlu grŵp rheini a phlant bach yn eich ardal chi, bydd arnoch angen:

  • cymorth gan rieni eraill 
  • safle addas 
  • teganau ac offer 
  • yswiriant 
  • blwch cymorth cyntaf 
  • rhieni sy’n fodlon helpu 
  • hysbysebu ac amseroedd agor

Gallwn roi cymorth a chyngor i chi ar sut i sefydlu grŵp. I gael gwybod mwy am sefydlu grŵp, cysylltwch â ni neu ffoniwch ni ar 01745 815891.