Help gyda chostau gofal plant

Mae yna ystod eang o gymorth ariannol ar gael i’ch helpu â chost gofal plant.

Lleoedd am ddim mewn meithrinfa

Mae gan bob plentyn tair a phedair oed hawl i 10 awr o addysg meithrinfa am ddim yr wythnos, am 38 wythnos o’r flwyddyn. Bydd hyn yn gymwys hyd nes y byddan nhw’n cyrraedd oed ysgol gorfodol (y tymor sy’n dilyn eu pumed pen blwydd). Cysylltwch â’r ysgol neu’r feithrinfa o’ch dewis chi i drafod lleoliad.

Help gan eich cyflogwr

Os ydych chi’n rhiant sy’n gweithio, gallwch gymryd hyd at 13 wythnos o absenoldeb rhiant hyd eu pumed pen blwydd (fe gewch fwy na hyn os oes gennych blentyn anabl). Nid oes raid i’ch cyflogwr dalu i chi pan fyddwch yn cymryd yr absenoldeb yma, ond mae’n bosib y gwnân nhw’n rhan o’ch pecyn cyflogaeth. 

Gweithio hyblyg ydi pan fyddwch chi’n gofyn i’ch cyflogwr am batrwm gweithio newydd er mwyn i chi allu gofalu am eich plentyn. Mae gennych hawl i ofyn am batrwm gweithio hyblyg os oes gennych chi blentyn dan chwech oed neu blentyn anabl dan 18. Mae’n rhaid i’ch cyflogwr ystyried eich cais yn ddifrifol. 

Gall eich cyflogwr eich darparu â thalebau gofal plant i’w defnyddio i dalu am ofal plant. Gallwch ddewis pa ddarparwr gofal plant i’w ddefnyddio, ond mae’n rhaid iddyn nhw fod wedi eu cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae’r talebau’n werth hyd at £55 yr wythnos neu £243 y mis.

Siaradwch â'ch cyflogwr os hoffech chi rywfaint o’r cymorth hwn.

Help ar gyfer plant sydd ag anabledd 

Os oes gan eich plentyn neu blentyn rydych chi’n gyfrifol amdano, anabledd, gallech gael taliadau uniongyrchol gennym ni i helpu â chost eu gofal, clwb gwyliau, canolfan hamdden neu gostau teithio. Cysylltwch â ni i siarad am eich anghenion.

Lwfans Byw i’r Anabl ydi’r prif fudd-dal a delir ar gyfer plant anabl. Mae’n ddau ran: yr elfen ofal, ar gyfer plant sydd angen sylw neu oruchwyliaeth ychwanegol, a’r elfen symudedd, ar gyfer plant sydd angen help i fynd o gwmpas. Yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, fe allai eich plentyn fod yn gymwys ar gyfer un rhan neu’r ddau. Gall 'Cysylltu â theulu' (gwefan allanol) eich helpu i hawlio Lwfans Byw i’r Anabl.