Cefnogaeth a chymorth ar gyfer plant a phobl ifanc
Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn cynnig cymorth un-i-un a grŵp i bobl ifanc sy’n wynebu heriau yn eu bywydau. Gallwch ddefnyddio'r ffurflenni isod i atgyfeirio person ifanc neu, os ydych chi’n berson ifanc, i gysylltu â’r gwasanaeth eich hun.
Os wyt ti’n berson ifanc ac yn byw yn Sir Ddinbych, defnyddia’r ffurflen yma i ofyn am gymorth:
Gofyn am gymorth (person ifanc)
Tra ein bod yn ymdrin â nifer fawr o ymholiadau, nid yw’r ffurflenni ar gyfer rheini/gofalwyr ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol (e.e. rhywun sy’n gweithio mewn ysgol neu asiantaeth berthnasol) ar gael ar hyn o bryd. I drafod ymhellach, anfonwch e-bost at Charlotte Morris.
Grwpiau cysylltiedig
Prosiect Fy Amser i ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed
Lleoliad: Canolfan ieuenctid y Rhyl
Pryd: bob dydd Iau 1pm tan 3pm
I gysylltu: anfonwch e-bost at Kelly Owen neu ffoniwch 07787 836134
Grŵp Ailgysylltu Bechgyn rhwng 11 ac 16 oed (blwyddyn 7 i 11) sydd wedi ymddieithrio o fyd addysg
Lleoliad: Hwb Dinbych
Pryd: bob dydd Llun 10am tan 11am
I gysylltu: anfonwch e-bost at Jim Salisbury neu ffoniwch 07818 012385