Asiantau Gorfodi (beilïaid)

Gellir rhoi cyfarwyddyd i Asiantau Gorfodi (oedd yn cael eu galw’n feilïaid yn flaenorol) i gasglu treth y cyngor a threthi busnes sydd heb eu talu os cyflwynir gorchymyn atebolrwydd, a dyledion dirwyon parcio os cyflwynir gwarant.

Sut i dalu

Os oes gennych daliad i’w wneud, gallwch ei dalu ar-lein. 

Talu ar-lein

Hefyd gallwch dalu trwy’r llinell ffôn awtomatig 24 awr ar 03004562499 neu mewn siop un stop.

Creu cynllun ad-dalu

Os yw eich dyled yn cael ei throsglwyddo i Asiantau Gorfodi yna bydd ffi benodedig o £75 i chi am bob gorchymyn atebolrwydd neu warant. Mae’r ffi hon wedi’i gosod gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac nid oes modd ei thrafod.

Cyn i Asiant Gorfodi ymweld â’ch eiddo, byddwch yn derbyn o leiaf un llythyr trwy’r post yn rhoi cyfle i chi gytuno â chynllun ad-dalu er mwyn osgoi ymweliad gan Asiant Gorfodi. Ar y cam hwn mae’r ffi benodedig o £75 eisoes wedi’i gosod ar eich cyfrif a bydd angen ei chynnwys yn y cynllun ad-dalu.

Gallwch gysylltu â ni i drafod cynllun ad-dalu.

Ymweliadau Asiant Gorfodi

Os nad ydych yn cysylltu â’r swyddfa i gytuno â chynllun ad-dalu, neu’n methu talu’r cynllun a gytunwyd, yna bydd y cyfrif yn cael ei drosglwyddo i Asiant Gorfodi fydd yn ymweld â chi yn eich cartref. Ar ôl i’r asiant dderbyn cyfarwyddyd i ymweld â chi, bydd ffi benodedig o £235.00 (a 7.5% os yw’r ddyled dros £1500) yn cael ei ychwanegu at y swm sy’n weddill. Mae’r ffi hon wedi’i gosod gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac nid oes modd ei thrafod.

Yn ystod yr ymweliad, bydd gofyn i chi dalu’n llawn (gan gynnwys y ffi o £235.00), trefnu cytundeb nwyddau a reolir neu nwyddau y gellir eu tynnu o’ch eiddo.

Cytundeb nwyddau a reolir

Efallai y byddwch yn cael cyfle i sefydlu cynllun ad-dalu trwy ddechrau cytundeb nwyddau a reolir . Mae hyn yn cynnwys Asiant Gorfodi yn gwneud rhestr o’ch nwyddau sydd yr un gwerth â’r ddyled sy’n daladwy i ddiogelu’r trefniant talu.

Mae’n rhaid i chi beidio â gwaredu na gwerthu unrhyw nwyddau sy’n rhan o gytundeb nwyddau a reolir nes y telir eich dyled yn llawn.

Cymryd Nwyddau

Os nad ydych yn llofnodi’r cytundeb nwyddau a reolir, neu’n methu talu’r cynllun a gytunwyd, yna gall yr Asiant Gorfodi fynd i mewn i'ch eiddo a chymryd nwyddau. Mae ffi ychwanegol o £110 (a 7.5% ar gyfer unrhyw falans dros £1500) os cymerir yr nwyddau i’w gwerthu.

Bydd y nwyddau sy’n cael eu cymryd yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn. Os oes dyled yn parhau’n daladwy ar ôl hyn, yna bydd yr Asiant Gorfodi yn cysylltu â chi a gellir cymryd camau gorfodi pellach. Os yw’r nwyddau’n cael eu gwerthu am bris uwch na’r ddyled sy’n daladwy, yna gellir dychwelyd y credyd i chi, os nad oes gennych unrhyw ddyled bellach gyda ni.

Gorfodaeth Bellach

Os nad oes digon o eitemau i glirio’r ddyled, yna byddwn yn ystyried opsiynau eraill megis eich gwneud yn fethdalwr neu gorchymyn yn erbyn eich eiddo.