Talu anfoneb gyffredinol

Fe roddir anfonebau cyffredinol am amrywiaeth o wasanaethau e.e. rheoli plâu, ceisiadau cynllunio, gwastraff masnach a gofal ar gyfer yr oedrannus. 

Gallwch dalu ar-lein os oes gennych chi rhif 9 digid yr anfoneb.

Talu ar-lein

Debyd Uniongyrchol

Os byddwch yn derbyn anfoneb reolaidd gennym ni neu os hoffech dalu mewn rhandaliadau, gallwch ddewis talu gyda debyd uniongyrchol. Bydd angen i chi gwblhau ffurflen debyd uniongyrchol a’i dychwelyd i Dŷ Russel, Ffordd Churton, Y Rhyl, LL18 3DP. 

Ffurflen debyd uniongyrchol anfoneb gyffredinol (PDF, 250KB)

Cerdyn debyd/credyd

Gellir talu â cherdyn debyd/credyd gan ddefnyddio eich rhif cyfeirnod yn Siop Un Alwad, neu ar y ffôn ar y lein dalu awtomataidd 24 awr ar 03004562499. 

Arian parod neu siec

Gallwch dalu mewn unrhyw Siop Un Alwad yn Sir Ddinbych. Y cwbl sydd arnoch ei angen ydi eich rhif cyfeirnod. 

Gallwch dalu arian parod mewn swyddfa bost neu bwynt tâl (gwefan allanol) gan ddefnyddio'r cod bar ar eich bil.

Dylid gwneud sieciau’n daladwy i Gyngor Sir Ddinbych efo’ch rhif cyfeirnod ar y cefn a’i anfon at Siop Un Alwad Y Rhyl, Stryd yr Eglwys, Y Rhyl, LL18 3AA. 

Problemau talu

Os ydych yn cael trafferth talu eich anfoneb, neu os ydych yn credu bod yr anfoneb yn anghywir, cysylltwch â’r unigolyn a enwyd ar dop yr anfoneb, ar yr ochr dde, ar y rhif ffôn a nodwyd. 

Os na thelir anfoneb erbyn y dyddiad dyledus, neu os na fydd trefniant wedi ei ddilyn, fe roddir llythyrau adfer. Os byddwch yn parhau i fethu â thalu, gellir cymryd camau pellach a allai gynnwys costau llys a ffioedd ychwanegol.