Gwasanaeth Dosbarthu Taflenni Twristiaeth

Rydym yn darparu gwasanaeth dosbarthu taflenni twristiaeth am ddim ar gyfer busnesau i archebu taflenni a phamffledi. Cynhyrchir y wybodaeth hon i annog ymwelwyr i’r ardal, a gwella eu profiad pan maent yma.

Mae'r cynnyrch yn cynnwys:

  • Taflenni Llwybrau Tref
  • Darganfod Sir Ddinbych ar lwybrau

Pwy all archebu?

Gallwch archebu gan y gwasanaeth dosbarthu taflenni os yw eich busnes yn ac o amgylch Gogledd Ddwyrain Cymru ac os ydych mewn cyswllt ag ymwelwyr.

Sut i archebu

Gallwch archebu o'r Gwasanaeth Dosbarthu Taflenni Twristiaeth arlein. Byddwn yn trefnu i'r cwmni dosbarthu ddanfon y cynnyrch i chi, yn rhad ac am ddim.

Archebwch gan ein Gwasanaeth Dosbarthu Taflenni Twristiaeth arlein

Archebwch digon o stoc ar gyfer tri mis, nes y dosbarthiad nesaf. Os byddwch yn rhedeg yn isel yn y cyfamser, ffoniwch ni ar 01824 706223 neu anfonwch e-bost at tourism@denbighshire.gov.uk a gwnawn ein gorau i drefnu bod mwy o stoc yn cael ei anfon i chi.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd ein cwmni dosbarthu yn danfon y stoc i chi yr wythnos yn dilyn y dyddiad cau.

Os na dderbyniwch eich taflenni o fewn pythefnos i’r dyddiad cau, anfonwch e-bost atom ar tourism@denbighshire.gov.uk.