Pont y Ddraig

Pont Y Ddraig

Mae pont Feicio / Gerdded anhygoel Pont y Ddraig yn werth ei gweld.

Wedi ei hagor ym mis Hydref 2013, mae’r bont yn cau'r bwlch ar Lwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (gwefan allanol), sydd ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Mae'r llwybr yn darparu mynediad di draffig at 'Lwybr Arfordir Cymru' yn ogystal ag at gyfleusterau newydd yr Harbwr.

Pont Y Ddraig (Noswaith)

Mae'r bont yn agor er mwyn galluogi cychod i fynd i mewn ac allan o’r harbwr ac mae’n cael ei gweithredu o swyddfa’r harbwr yn adeilad y cei.

Cyngor Peilotage

Mae mynediad i ac o'r harbwr mewnol drwy'r Bont Gerddwyr / Beicio, bydd y bont yn cael ei chodi ar alw, yn ddibynnol ar gryfder y gwynt ac os yw uchder y llanw yn golygu y gellir hwylio yn yr harbwr a thuag ato.

Nodiadau

  1. Wrth gyrraedd Harbwr Y Rhyl: i drefnu agor y bont, cysylltwch â Swyddfa'r Harbwr wrth gyrraedd y Glwyd Tua'r Môr yn safle N53°19.45- W003°30.43 pan roddir cyngor am gael mynediad drwy’r bont.
  2. Gadael yr Harbwr Mewnol: Cyn gadael angorfa a gadael yr harbwr mewnol cysylltwch â Swyddfa'r Harbwr er mwyn trefnu i agor y bont, peidiwch â gadael yr angorfa hyd nes bydd hynny wedi ei gymeradwyo.
  3. Os bydd gwynt o gyflymder Cryfder 7 ac uwch, bydd y bont ar gau (ni fydd modd yn fordwyol). Os bydd y bont ar gau oherwydd amodau'r tywydd neu ddim yn cael ei gweithredu am unrhyw reswm arall gall cychod a llongau ddocio ar bontynau'r harbwr allanol ar ôl derbyn caniatâd Swyddfa'r Harbwr.
  4. Gall rhai crefft fach basio drwy'r bont pan fydd ar gau, ar eu menter eu hunain.

Cyngor Peilotage (cyngor cyffredinol i Longwyr)