Marine Lake: Gweithredwyr Masnachol

Os ydych chi'n rhedeg Ysgol Bwrdd Padlo ar eich Traed, yn dysgu canŵio ac arnoch chi eisiau amgylchedd diogel i hyfforddi'ch cwsmeriaid, neu’n cynnal cwrs campau dŵr, yna pam na ddowch chi yma i'r Llyn Morol?

Does arnoch chi ddim angen trwydded ar gyfer pob cwch neu ddarn o gyfarpar, ond mae'n rhaid i chi gyflwyno tystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus (gwerth o leiaf £5 miliwn), asesiadau risg, ynghyd â gweithdrefnau gweithredu, chynlluniau gweithredu mewn argyfwng a siec Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar hyn o bryd, o leiaf bythefnos cyn eich sesiwn gyntaf.

Trwydded Gweithredwr Masnachol

Os hoffech chi ddefnyddio'r Llyn Morol fel gweithredwr masnachol, yna mae arnoch chi angen trwydded. Gallwch wneud cais am drwydded drwy lenwi a dychwelyd ffurflen gais.

Ffurflen gais: Gweithredwr Masnachol Marine Lake (PDF, 312KB)

Costau

Ffioedd Marine Lake

Sut i archebu

Os hoffech chi drefnu digwyddiad ffoniwch 01824 708400 neu e-bostio rhyl.harbour@denbighshire.gov.uk.