Os ydych chi’n profi neu wedi profi cam-drin domestig neu drais rhywiol, neu os ydych chi’n poeni am rywun yna ffoniwch Llinell Gymorth Byw Heb Ofn (gwefan allanol) am ddim, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar 0808 80 10 800.
Gall cam-drin domestig gynnwys:
- trais corfforol
- bygythiadau llafar a bychanu
- cam-drin seicolegol ac emosiynol, fel ynysu oddi wrth anwyliaid neu gywilyddio
- trais rhywiol, fel treisio
- rheolaeth ariannol, fel atal arian
Sut i gael help
Mae yna nifer o sefydliadau a all helpu os byddwch chi neu rywun rydych chi’n eu hadnabod yn dioddef cam-drin domestig. Mae rhai o’r gwefannau isod yn rhoi’r opsiwn i guddio edrychiad tudalennau yn ogystal â newid i wefan wahanol yn sydyn i’ch helpu i edrych ar y safle’n ddiogel.
Gallwch ddod o hyd i fanylion y sefydliadau rydym yn gweithio â nhw yn y cyfeirlyfr Cefnogi Pobl.
Cefnogi Pobl: Cyfeirlyfr o Wasanaethau Cymorth (PDF, 451KB)
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn - 0808 80 10 800
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn (gwefan allanol) yn darparu gwasanaeth cyfeirio gyda gwybodaeth ddwyieithog 24 awr i helpu ac i arwain pobl sydd â phrofiad o gam-drin domestig neu drais rhywiol, sydd angen cyrchiad i wasanaethau fel cyngor, cymorth mewn argyfwng, diogelwch, a gwybodaeth ar eu hawliau a’u hopsiynau.
Childline
Gallwch gysylltu â ChildLine am unrhyw beth – does yr un broblem yn rhy fawr nac yn rhy fach. Os byddwch yn teimlo’n bryderus, yn ofnus, dan straen neu ddim ond eisiau siarad â rhywun, gallwch gysylltu â ChildLine.
Gwefan Childline (gwefan allanol)
Cymorth i Fenywod (WWA)
Cymorth i Fenywod ydi’r sefydliad ymbarél cenedlaethol sy’n cynrychioli Grwpiau Cymorth i Fenywod lleol yng Nghymru drwyddi draw. Mae eu grwpiau aelodau’n darparu gwasanaethau uniongyrchol i ferched a phlant sydd wedi profi cam-drin domestig neu sy’n ei brofi ar hyn o bryd.
Cymorth i Ferched Cymru (gwefan allanol).
Gwasanaethau cam-drin domestig lleol
| Gwasanaeth / Ardal | Rhif ffôn |
| Gwasanaeth Cam-drin Domestig Aberconwy |
01492 872992 |
| Gwasanaeth Camdriniaeth Ddomestig Gogledd Dinbych |
01745 337104 |
| Cymorth i Ddioddefwyr Gogledd Cymru |
0300 30 30 159 |
|
BAWSO (Black Association Women Step Out) - llinell gymorth 24 awr
|
0800 731 8147 |
| Gweithredu ar Gam-drin Pobl Hŷn |
08088 088 141 |
| MEDA (Dynion sy’n profi cam-drin domestig) |
01686 610391 |
| Llinell gymorth trais yn y cartref ar gyfer dynion, Dyn Project |
- Ffôn: 0808 80 10 321
- Ebost: support@dynwales.org
|
| Uned Diolgelwch Trais Teuluol / Domestic Abuse Safety Unit (DASU) Gogledd Cymru (gwefan allanol) |
0333 360 0483 Y Tu Allan i Oriau: 0808 80 10 800
|
| Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhyiol Gogledd Cymru RASASC |
- Llinell gymorth: 0808 8010 800
- Swyddfa: 01248 670 628
|
| Cerrig Camu Gogledd Cymru |
|
| Respect: Llinell gymorth ar gyfer treiswyr |
- Ffôn: 0808 8024040
- Ebost: info@respectphoneline.org.uk
|
| SARC Amethyst |
- Ffôn: 01492 805384
- Ebost: BCU.Amethyst@wales.nhs.uk
|
| Llinell gymorth iechyd meddwl a gwasanaeth wrando, C.A.L.L. |
- Ffôn: 0800 132 737
- Neges testun: help i 81066
|
| Llinell gymorth yr NSPCC |
- Ffôn: 0808 800 5000
- Ebost: help@NSPCC.org.uk
|
| Llinell gymorth alcohol a chyffuriau, DAN 24/7 |
Ffôn: 0808 808 2234
|
Dogfennau cysylltiedig
Polisi cam-drin domestig (PDF, 1.47MB)