Adroddiadau ar Asesiadau o Effaith ar Les

Mae'r dudalen hon yn rhoi mynediad at amrywiaeth eang o adroddiadau am asesiadau o effaith ar les a gwblhawyd gan Gyngor Sir Ddinbych.

Mae asesiadau o effaith ar les yn asesiadau sgrinio integredig sy’n asesu'r effaith y gallai cynnig ei gael ar les cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Sir Ddinbych, Cymru a'r byd. Mae'r asesiadau o effaith ar les hyn yn cynnwys ystyriaeth o'r effeithiau posibl, yn y tymor hirach, ar gydraddoldeb, y Gymraeg, yr amgylchedd a llawer o faterion eraill.

Fe'u cynhaliwyd gan amrywiaeth o dimau, ac rydym yn cynghori eu bod yn cael eu cwblhau fel grŵp. Mae'r adroddiadau a gyhoeddwyd isod yn amrywio o ran eu cwmpas, eu maint a'u hyd. Dylent fod yn gymesur â'r cynnig sy’n cael ei asesu ac yn briodol ar gyfer y gwneuthurwyr penderfyniadau ar y pryd. Nid yw'r ffaith nad yw adroddiad yn cynnwys data, tystiolaeth neu gefndir penodol yn golygu na chafodd y fath wybodaeth ei chasglu. Fodd bynnag bydd angen ailedrych ar rai asesiadau o effaith ar les wrth i gynnig ddatblygu.

Bydd dilyn y dolenni isod yn mynd â chi at y papurau pwyllgor sy’n cynnwys yr adroddiad ar yr asesiad. Mae’n bwysig darllen yr asesiad o effaith ar les ochr yn ochr â’r adroddiadau cefndir ac unrhyw wybodaeth arall a ddarperir.

Mae adroddiadau a gyhoeddwyd cyn mis Chwefror ar gael yn ein tudalennau cyfarfodydd ar-lein a rhaglenni.

Adroddiadau ar Asesiadau o Effaith ar Les
TeitlGwasanaethDyddiadDisgrifiadPynciau
Contract ar gyfer Darparu Cyngor i Ddefnyddwyr a Chyngor Ariannol yn Sir Ddinbych Cyllid ac Archwilio Medi 2023 I dendro ar gyfer contract newydd i ddarparu cyngor i ddefnyddwyr a chyngor ariannol yn Sir Ddinbych am gyfnod o 4 blynedd (gyda’r dewis i estyn y contract flwyddyn arall). Mae’r contract presennol ar fin dod i ben. Trechu Tlodi / Lles Ariannol
Prosiect Archifau ar y Cyd Gogledd Ddwyrain Cymru Tai a Chymunedau Gorffennaf 2023 Bydd Prosiect Archifau ar y Cyd Gogledd Ddwyrain Cymru yn darparu gwasanaeth archifau cynaliadwy, effeithlon a gwell ar gyfer Sir Ddinbych a Sir y Fflint a bydd yn cael ei ddarparu yn y camau canlynol:
  • Cam I - Un Gwasanaeth a Rennir: creu un gwasanaeth a rennir sy’n gweithredu ar hyd a lled Sir y Fflint a Sir Ddinbych.
  • Cam II – Adeilad Newydd: Adeilad Archif newydd pwrpasol â storfa Passivhaus.
  • Cam III - Cynllun Gweithgaredd: Cynllun gweithgaredd i ehangu ac amrywio'r gwasanaeth i’r gynulleidfa a darparu gwasanaeth cynaliadwy.
Treftadaeth a Diwylliant
Gwasanaeth a Reolir ar gyfer Darparu Gweithwyr Asiantaeth Adnoddau Dynol a Chaffael Ebrill 2023 Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi’r effaith tebyol o’r cynnig i aildendro ar gyfer gwasanaeth a reolir ar gyfer darparu gweithwyr asiantaeth. Cyflogaeth Asiantaeth

Fframwaith Caffael Dylunio ac Argraffu

Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata

Hydref 2021

Fframwaith caffael dylunio ac argraffu newydd ar gyfer un cyfredol Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint.

Dylunio, Caffael

Darpariaeth Gwasanaethau Canolfan Ailgylchu Gwastraff Y Cartref yn y dyfodol – caffael ar y cyd gyda Chyngor Conwy

Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol

Hydref 2021

Caffael gweithredwyr ar y cyd ar gyfer canolfannau ailgylchu Sir Ddinbych a Chonwy – tri sydd yn gwasanaethau Sir Ddinbych ar hyn o bryd, wedi’u lleoli yn y Rhyl, Dinbych a Rhuthun.

Mae’r caffael ar y cyd angen y ddau gyngor i alinio ar ystod o bolisïau sydd yn llywodraeth mynediad at y cyfleuster, ffrydiau gwastraff ac unrhyw ffioedd a chyfyngiadau sydd yn berthnasol gyda defnydd o’r cyfleusterau.

Mae effaith unrhyw newidiadau i “gynnig gwasanaeth” cyfredol Sir Ddinbych yn cael eu hasesu.

Gwastraff, ailgylchu a chaffael

Gwasanaeth Cymorth ac Asesu Cof Rhanbarthol

Gwasanaethau Cymorth Cymunedol

Hydref 2021

Comisiynu gwasanaethau cyngor a chymorth integredig ar draws Rhanbarth Gogledd Cymru i bobl sydd eisiau cymorth cyn asesiad ac ar ôl asesiad, sydd â phroblemau â chof neu bryderon yn dilyn diagnosis o Ddementia.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2020/21

Cyllid

Medi 2021

Adolygu gweithgareddau rheoli trysorlys yn 2020/21.

Cyllid

Contract Gwelliannau Allanol ar gyfer Tai y Cyngor

Cyfleusterau, Asedau a Thai

Medi 2021

Gwaith cyfalaf i’r stoc dai’r cyngor i gyflawni gwaith atgyweirio cyfalaf mawr ac arbed ynni.

Tai, arbed ynni

Datblygu rhandai newydd ar gyfer rhent cymdeithasol yn The Dell, Prestatyn

Cyfleusterau, Asedau a Thai

Medi 2021

Adeiladu pymtheg rhandy i ddarparu tai ar rent cymdeithasol sydd naill ai’ wedi eu haddasu neu’n hygyrch, neu fel arall wedi’u dylunio i fodloni anghenion pobl sy'n defnyddio cadair olwyn.

Tai, Cydraddoldeb

Ailddatblygu hen safle Llyfrgell Prestatyn

Cyfleusterau, Asedau a Thai

Medi 2021

Dymchwel hen Lyfrgell Prestatyn ac ailddatblygu'r safle i ddarparu 14 rhandy un ystafell wely ar gyfer rhent cymdeithasol i bobl dros 55 oed a 2 uned fasnachol llawr gwaelod.

Tai, Cydraddoldeb

Grant Cynhaliaeth Ysgolion

Gwasanaethau Addysg a Phlant

Gorffennaf 2021

Dyrannwyd £1.487m i’r Cyngor ym mis Mawrth 2020 ar gyfer gwariant ar gynnal a chadw adeiladau ysgol. Dyrannwyd £1.716m ychwanegol i’r Cyngor erbyn hyn.

Ysgolion, adeiladau, cyllid

Llangollen 2020

Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd

Gorffennaf 2021

Mae prosiect Llangollen 2020 yn cynnwys cyflwyno llwybrau cerdded lletach a chyffordd wedi'i chodi, gan gynnwys croesfan gwell i gerddwyr yn Heol Y Castell yn Llangollen.

Pwrpas y prosiect yw gwella lefelau teithio llesol ac i wella mynediad at nifer o leoliadau yn y dref, ar gyfer cerddwyr a beicwyr, gan gynnwys Ysgol Dinas Bran, Ysgol y Gwernant, Ysgol Bryn Collen, Pafiliwn Rhyngwladol Llangollen, Canolfan Iechyd Llangollen, Gorsaf Fysiau Llangollen a Gorsaf Drenau Llangollen.

Teithio, Ffyrdd, Teithio Llesol, Canol Trefi.

Datganiad Polisi Cyflogau 2021/22

Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd

Ionawr 2018

Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnodau Dynol a Democrataidd. Gweithredu Polisïau Tâl ac Adnabyddiaeth: Polisi Teithio / Polisi Taliadau Cyflawni Dyletswyddau Uwch, Honoraria ac Ex-Gratia / Terfynu Polisi Cyflogaeth yn Fuan / Polisi Ymddeoliad Hyblyg / Polisi Bandio a Disgresiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol / Wrth gefn, Ar Alwad a Chysgu i mewn Polisi / Polisi Atodol y Farchnad / Model Polisi Tâl Ysgol

Adnoddau Dynol, Cyflog