Cymorth i bobl sy'n ddall neu â nam ar eu golwg

Rydym yn cynnig cymorth i bobl sy’n ddall neu â nam ar eu golwg.

Profion llygaid

Os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch golwg (a heb fod mewn clinig llygaid yn yr ysbyty), fe ddylech chi gysylltu â’ch optegydd lleol i gael prawf llygaid. Gall eich Optegydd ac/neu’ch Clinig Llygaid lleol eich atgyfeirio’n uniongyrchol atom ni os bydd angen.

Asesiad Golwg Gwan

Os ydych chi wedi cael prawf llygaid yn ddiweddar, ond yn dal i gael trafferth darllen a gweld pethau’n glir, efallai y bydd gennych chi hawl i gael Asesiad Golwg Gwan.

Mae yna nifer o Ymarferwyr Golwg Gwan yn ardal Sir Ddinbych all eich helpu chi i wneud y gorau o’ch golwg drwy roi cymhorthion a chyfarpar golwg arbenigol i chi, megis chwyddwydrau a lampau, a hynny'n rhad ac am ddim.

Ewch i eyecarewales.nhs.uk i chwilio am Ymarferydd Golwg Gwan (gwefan allanol)

Y cymorth rydym yn ei gynnig

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth i bobl â nam ar y synhwyrau, gan gynnwys:

Sut i gael cymorth gennym ni

Mae gennym ni wahanol dimau sy’n cynnig cymorth i oedolion, plant a phobl ifanc.

Cymorth i oedolion

Dylai oedolion (pobl dros 18 oed) sydd angen cymorth gyda nam ar y synhwyrau gysylltu â’r tîm Un Pwynt Mynediad. 

Ffoniwch ni ar 0300 4561000 yn ystod yr amseroedd isod:

  • Dydd Llun: 8:15am i 5:45pm
  • Dydd Mawrth: 8:15am i 5:45pm
  • Dydd Mercher: 8:15am i 2pm and 3pm to 5:45pm
  • Dydd Iau: 8:15am i 5:45pm
  • Dydd Gwener: 8:15am i 5:45pm
  • Dydd Sadwrn: 10am i 4pm
  • Dydd Sul: 10am i 4pm
  • Gwyliau Banc (ac eithrio Dydd Nadolig a Sul y Pasg): 10am i 4pm

Os oes angen i chi siarad â gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd mewn argyfwng tu allan i'r oriau hyn, gallwch ffonio 0345 053 3116 (mae galwadau i’r rhif hwn yn costio 2 geiniog y funud a thâl defnyddio eich cwmni ffôn).

Cysylltwch â’r tîm Un Pwynt Mynediad ar-lein

Cymorth i blant a phobl ifanc hyd at 18 oed

I gael cymorth gyda nam ar y synhwyrau i blant a phobl ifanc hyd at 18 oed, cysylltwch â’r tîm Teuluoedd yn Gyntaf

Cyfarpar nam ar y synhwyrau

Mae cyfarpar arbenigol ar gael i helpu pobl â nam ar y synhwyrau i fod yn annibynnol. Gall rhywfaint o’r cyfarpar gael ei ddarparu fel rhan o’ch asesiad arbenigol neu hyfforddiant adsefydlu.

Mae gennym ni hefyd Ystafell Adnoddau Synhwyraidd sy'n arddangos cyfarpar ac yn rhoi gwybodaeth a chyngor i chi am y lleoedd sy’n gwerthu eitemau arbenigol. Dim ond drwy wneud apwyntiad y gallwch chi ymweld â'r Ystafell Adnoddau. 

Sut i gael cymorth gennym ni

Gwasanaethau adsefydlu ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg

Mae ein staff arbenigol wedi’u cymhwyso i gynnig cymorth a chyngor i chi allu cynnal a datblygu eich annibyniaeth gyda thasgau bob dydd.

Cymorth a chyngor

Gall ein staff weithio gyda chi i addysgu’r sgiliau rydych chi eu hangen i’ch helpu i ddod yn fwy hyderus ac annibynnol gyda’r canlynol:

  • darllen
  • ysgrifennu
  • dweud faint yw hi o’r gloch
  • paratoi eich prydau bwyd
  • gwneud paned o de
  • croesi’r ffordd yn ddiogel
  • defnyddio technoleg
  • cymhorthion golwg gwan
  • goleuadau
  • cyferbynnu lliwiau
  • hyfforddiant sgiliau byw’n annibynnol
  • hyfforddiant sgiliau cyfathrebu
  • hyfforddiant symudedd

Sut i gael cymorth gennym ni

Cymorth gydag effaith emosiynol nam ar y synhwyrau

Mae nam ar y synhwyrau’n effeithio pobl mewn gwahanol ffyrdd, a’n nod ni yw gweithio gyda chi i'ch helpu i addasu i unrhyw newidiadau emosiynol y gallech chi fod yn eu hwynebu. 

Sut i gael cymorth gennym ni