Atwrneiaeth Arhosol

Mae atwrneiaeth arhosol (LPA) yn ddogfen gyfreithiol sy'n gadael i chi (y 'rhoddwr') benodi un neu fwy o bobl (a elwir yn 'atwrneiod') i'ch helpu i wneud penderfyniadau neu i wneud penderfyniadau ar eich rhan.

Mae hyn yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros beth fydd yn digwydd i chi os cewch ddamwain neu salwch ac os na fyddwch yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun (byddwch 'heb alluedd meddyliol').

Mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn a bod â galluedd meddyliol (gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun) pan rydych yn gwneud eich LPA.

Nid oes rhaid i chi fyw yn y DU na bod yn ddinesydd Prydeinig.