Talu am ofal adref

Unwaith y bydd anghenion gofal a chefnogaeth cymwys wedi’u nodi, mae’n bosibl y bydd hyn yn arwain at ddatblygu Cynllun Gofal a Chefnogaeth a reolir, y bydd disgwyl i chi gyfrannu tuag ato o bosibl.

Cymhwyster - Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae cymhwyster yn ymwneud â mynediad i ofal a chefnogaeth wedi’i reoli i ddiwallu deilliannau personol (yr hyn sydd o bwys i chi). Nid yw’n ymwneud â chael hawl i wasanaeth penodol a ddarparwyd neu a drefnwyd gan yr Awdurdod Lleol.

  • Mae cymhwyster yn ymwneud â’ch angen unigol, nid i chi fel unigolyn
  • Efallai yr ystyrir bod rhai o’ch anghenion gofal a chefnogaeth yn gymwys, ac efallai na fydd anghenion gofal a chefnogaeth eraill yn gymwys
  • Gall newid yn eich amgylchiadau effeithio ar eich cymhwyster ar unrhyw adeg

Mae pedwar amod y mae'n rhaid i chi eu diwallu er mwyn bod yn gymwys:

Amod 1

Mae’r amod cyntaf yn ymwneud â’ch amgylchiadau chi ac mae’n cael ei ddiwallu os bydd eich angen yn codi o’r rhestr isod. Yn achos gofalwr, mae’r angen o ganlyniad i ddarparu gofal i ddinesydd sydd ag un neu fwy o’r anghenion a restrwyd isod:

  • salwch corfforol neu feddyliol
  • oed
  • anabledd
  • dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau
  • amgylchiadau tebyg eraill – gofynnwch am wybodaeth ynglŷn â beth y gall hyn ei gynnwys.

Amod 2

Mae’r ail amod yn cael ei ddiwallu os yw’r angen yn ymwneud ag un neu fwy o’r deilliannau isod:

  • Y gallu i gyflawni arferion hunanofal neu ddomestig;
  • Y gallu i gyfathrebu;
  • Amddiffyn rhag cam-drin neu esgeulustod;
  • Cymryd rhan mewn gwaith, addysg, dysg neu weithgareddau hamdden;
  • Cynnal a neu ddatblygu perthynas teulu neu berthnasau personol arwyddocaol eraill;
  • Datblygu a chynnal perthnasau cymdeithasol a chyfranogiad yn y gymuned; neu
  • Gyflawni cyfrifoldebau gofalu am blentyn

Amod 3

Mae’r trydydd amod yn cael ei ddiwallu os na ellir diwallu eich angen gennych chi yn unig, gyda’r gofal neu’r gefnogaeth gan eraill sy’n gallu neu’n barod i ddarparu’r gofal a’r gefnogaeth; neu gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned. 

Amod 4

Mae’r pedwerydd amod yn cael ei ddiwallu os ydych chi/eich gofalwr yn annhebygol o gyflawni un neu fwy o’ch canlyniadau personol oni bai bod yr awdurdod lleol yn darparu neu’n trefnu gofal a chefnogaeth i ddiwallu’r angen yn unol â Chynllun Gofal a Chefnogaeth a reolir.

Mae angen diwallu’r pedwar amod a restrwyd uchod i fod yn gymwys ar gyfer cynllun gofal a chefnogaeth a reolir.

Faint fydd yn rhaid i mi ei dalu?

Mae p'un ai peidio bod angen i chi gyfrannu yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol. Byddwn yn cynnal asesiad ariannol i benderfynu faint fydd yn rhaid i chi dalu. Byddwn hefyd yn eich cefnogi i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau mae gennych hawl iddynt. Bydd yr holl wybodaeth yn aros yn gyfrinachol. 

Os yw eich incwm yn is na swm penodol, ni fyddwn yn gofyn i chi dalu tuag at gost eich gofal

Os oes gennych fwy na £24,000 mewn cynilion byddwn yn gofyn i chi dalu hyd at uchafswm o £100 yr wythnos tuag at gost eich gofal a chymorth.

Does dim rhaid i chi gael asesiad ariannol. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis peidio â chael asesiad ariannol, bydd gofyn i chi dalu hyd at uchafswm o £100 yr wythnos tuag at gost y gwasanaethau gofal a chefnogaeth a gewch.

Uchafswm y swm gellid gofyn i chi dalu tuag at gost eich gofal yn y cartref yng Nghymru ar hyn o bryd £100 yr wythnos.

Polisi codi ffioedd ar gyfer y gwasanaethau gofal a chymorth (PDF, 269KB)

Sut ydw i'n talu?

Byddwch yn derbyn bil bob mis, yn dangos pa wasanaethau rydych wedi eu derbyn, faint maent yn ei gostio, a faint y maen rhaid i chi ei dalu. Bydd y biliau bob amser mis mewn ôl-ddyled - er enghraifft, bydd y bil ar gyfer gwasanaethau rydych yn eu derbyn ym mis Medi yn cael ei anfon atoch ym mis Hydref.

Gallwch chi dalu:

  • trwy ddebyd uniongyrchol
  • Gan ddefnyddio PayPoint neu Swyddfa Bost gydag arian parod neu gerdyn, bydd angen i chi gymryd y ddogfen â chod bar gyda chi.
  • gydag arian parod neu siec mewn Siop Un Alwad
  • dros y ffon ffoniwch 01824 706000

Os ydych yn cael anhawster talu’r gost neu gyfraniad y gofynnwn i chi ei wneud, cysylltwch â ni cyn gynted ag y bo modd, os yw eich amgylchiadau yn newid gallwn edrych ar hepgoriad o'ch taliadau neu dalu mewn rhandaliadau.

Byddwn hefyd yn adolygu eich taliadau bob blwyddyn neu os oes unrhyw newidiadau i'r budd-daliadau a gewch. Gallwch wneud cais am adolygiad o’ch taliadau ar unrhyw adeg trwy gysylltu â’r Tîm Incwm Cyllid ac Asesu dros y ffôn: Y Rhyl 01824 706392, neu Ruthun 01824 712403 neu e-bostiwch tim.SAC@sirddinbych.gov.uk.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar dalu am ofal yn y cartref.

Cyngor ar Fudd-daliadau a Rheoli Dyled

Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu gwybodaeth ar yr hawl i fudd-daliadau yn ogystal â chymorth gyda dyledion ac arian.

Ewch i weld sut i gysylltu â Chyngor ar Bopeth.

Dogfennau cysylltiedig