Adrodd plentyn sydd mewn perygl

Os ydych chi’n bryderus am les neu ddiogelwch plentyn, cysylltwch â ni:

01824 712200: Dydd Llun i Ddydd Iau, 9am i 5pm a Ddydd Gwener, 9am i 4.30pm

0345 053 3116: gyda'r nos a phenwythnosau

Gallwch chi hefyd anfon ebost at cfsgateway@denbighshire.gov.uk.

Atgyfeirio

Gall pob sefydliad sy'n gweithio efo plant neu deuluoedd wneud atgyfeiriad at y gwasanaethau cymdeithasol.

Os ydych yn pryderu am blentyn neu deulu, gallwch wneud atgyfeiriad i ni drwy:

llenwi'r ffurflen gyfeirio hon:

Plant a theuluoedd: ffurflen atgyfeirio (MS Word, 688KB)

defnyddio'r canllawiau hyn pan fyddwch yn cwblhau'r ffurflen:

Plant a theuluoedd: trefnau diogelu plant Cymru gyfan (PDF, 55KB)

ac anfon eich ffurflen wedi'i chwblhau at cfsgateway@denbighshire.gov.uk.

Rydym wedi cofrestru i dderbyn cyfeiriadau diogel gan ddefnyddio'r system Egress Switch.

Pryd fydd plentyn mewn perygl?

Dylech gysylltu â ni os byddwch yn teimlo fod plentyn angen ei ddiogelu.  Os byddwch yn teimlo fod plentyn yn dioddef niwed, esgeulustod neu gamdriniaeth, gallwn ymchwilio a chymryd camau i ddiogelu’r plentyn.

Mae sawl math o gamdriniaeth, gan gynnwys:

  • Camdriniaeth corfforol: e.e taro, ysgwyd, llosgi neu sgaldio, gwenwyno bwriadol, mygu neu niweidio plentyn yn gorfforol mewn unrhyw ffordd arall.
  • Camdriniaeth emosiynol:  e.e. dweud wrth blentyn eu bod yn ddiwerth neu fod neb yn eu caru, yn eu bychanu, achosi iddynt deimlo'n ofnus, neu ofyn iddynt wneud rhywbeth nad yw'n rhesymol ar gyfer eu hoedran.
  • Camdriniaeth rhywiol: e.e. annog neu orfodi plentyn i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol amhriodol.  Gall hyn gynnwys cyswllt corfforol neu ddangos deunydd pornograffig i blentyn.
  • Esgeulustod: e.e. methiant i ddarparu digon o fwyd, cynhesrwydd, diogelwch, sylw meddygol, addysg neu ysgogiad meddyliol.

Does dim rhaid i chi roi eich enw, ond mae'n help mawr i ni os ydych chi.  Os yw'n well gennych, ni fyddwn yn rhoi eich enw i'r plentyn a'i deulu.

Does dim angen i chi wybod popeth am y plentyn a beth sy’n digwydd. Mae’r ffaith eich bod yn poeni, neu’n teimlo fod rhywbeth o’i le, yn ddigon.

Gallwch gael gwybod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud fel sefydliad i ddiogelu plant a phobl ifanc ar ein tudalen diogelu.