Gadael gofal

Os ydych chi’n gadael gofal, gallwn eich helpu i symud ymlaen mor llyfn ag sydd bosib i gam nesaf eich bywyd.

Beth fydd yn digwydd pan fydda i'n barod i adael gofal?

Beth fydd yn digwydd pan fydda i'n barod i adael gofal?
OedYr hyn sy'n digwydd
 14 Byddwch yn cael help a chefnogaeth i ddatblygu sgiliau sgiliau a fydd yn eich helpu i fyw yn annibynnol
 16 Fe roddir cynllun i chi i’ch helpu i symud o ofal i fywyd annibynnol. Gelwir hwn yn Gynllun Llwybr.
 18 Gallwch adael gofal os penderfynwch chi eich bod yn barod, ac mae yna gynllun yn ei le i ni eich cefnogi chi.
 21

Fe gewch chi gymorth a hyfforddiant gennym ni nes eich bod yn 21 oed neu’n hirach, yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi’i gytuno yn eich Cynllun Llwybr.

Pa help allaf i ei gael?

Fe rown ni gynghorydd personol i chi a bydd yn cadw cysylltiad â chi wedi i chi adael gofal.

Gallwn eich helpu i ffeindio rhywle i fyw, i gael addysg neu hyfforddiant, a dysgu sgiliau ymarferol fel coginio a rheoli eich arian, i’ch helpu i fod yn annibynnol. Gallwn hefyd roi cyngor i chi ar ba fudd-daliadau y gallech eu hawlio.

Beth ydi Cynllun Llwybr?

Mae eich Cynllun Llwybr yn ddogfen bwysig, gan ei bod yn dweud wrthych ba gymorth rydych chi am ei gael gan eich tîm gadael gofal, yn cynnwys y cymorth ariannol sydd yna ar eich cyfer. Mae fel contract i addo pa gymorth y byddwch yn ei dderbyn wrth baratoi i adael gofal, ac wedi i chi adael.

Mae angen i chi ofalu eich bod yn cynnwys eich nodau a’ch breuddwydion i gyd yn eich Cynllun Llwybr, fel y gallwch ofalu fod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i gyrraedd yno. Mae hyn yn cynnwys pethau fel: 

  • nodau sydd gennych mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth – dyma gyfle i chi feddwl am eich dyheadau gyrfa 
  • ffeindio lle i fyw 
  • cael sgiliau ymarferol i’ch helpu i fyw’n annibynnol 
  • byw’n iach

Fe helpwn ni chi i ddechrau cynllunio eich dyfodol yn eich adolygiad cyntaf yn dilyn eich pen blwydd yn 15 oed. Fe siaradwn ni â chi am eich nodau a’r hyn y gallech fod eu hangen i gyflawni’r nodau hynny, ac fe rown ni hyn at ei gilydd yn eich Cynllun Llwybr. Fe adolygwn ni’r Cynllun Llwybr bob 6 mis nes eich bod yn 21 (neu'n hŷn os ydych yn ailgysylltu â gofal).

Canllaw i Berson Ifanc i Gadael Gofal (PDF, 256KB)

Ailgysylltu â gofal

Os ydych chi wedi derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, fe allwch chi wneud cais am gefnogaeth hyd at 25 oed. Yr enw am hyn yw ‘ailgysylltu â gofal.

I gael gwybod mwy, siaradwch â’r cynghorwr personol neu weithiwr cymdeithasol. Gallwch hefyd ein ffonio ar 01824 712200.

Cysylltiadau mewn Argyfwng

Porth Cymorth i Blant a Theuluoedd

  • Ffôn: 01824 712200 
  • Oriau agor: 9am i 5pm o Dydd Llun i Dydd Iau a 9am i 4:30pm ar Dydd Gwener

Un Pwynt Mynediad

Gwybodaeth am y Un Pwynt Mynediad

Tîm Dyletswydd Argyfwng

  • Ffôn: 0345 0533116 
  • Oriau agor: Penwythnosau a Gyda’r Nos

Y Tîm Atal Digartrefedd

  • Ffôn: 0300 456 1000 
  • Oriau agor: 9am i 5pm o Dydd Llun i Dydd Iau a 9am i 4:30pm ar Dydd Gwener

Y Tîm Atal Digartrefedd Tu Allan i Oriau

  • Ffôn: 0300 123 30 68 
  • Oriau agor: Penwythnosau a Gyda’r Nos

Achosion brys

Mewn achos brys, os oes bywyd rhywun yn y fantol neu os oes trosedd yn cael ei chyflawni, deialwch 999 bob tro.

Gwefannau cysylltiedig