Taliadau uniongyrchol

Os ydych chi’n gymwys i gael gofal a chymorth dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gall yr arian gael ei dalu’n syth i chi er mwyn eich helpu chi i gael mwy o reolaeth a gwneud penderfyniadau o ran sut mae’n cael ei wario. Caiff hyn ei alw’n daliad uniongyrchol.

Byddwn ni’n penderfynu faint o arian a ddyrennir pan fydd asesiad o anghenion wedi'i gwblhau. Yn ystod yr asesiad o anghenion, byddwn ni’n gweithio gyda chi i ganfod;

  • pa fath o ofal a chymorth sydd ei angen arnoch chi i gyflawni’r canlyniadau neu’r amcanion y cytunwyd arnynt 
  • faint fydd cost y gofal a’r cymorth
  • faint allwch chi fforddio ei gyfrannu at y gost

Os ydych chi’n ofalwr, efallai eich bod chi’n gymwys i gael taliad uniongyrchol ar ôl cael asesiad o anghenion gofalwr i weld beth allai helpu i wneud eich bywyd chi’n haws.

Cael rhagor o wybodaeth am asesiadau o angenion gofalwyr.

Mae asesiadau o anghenion yn rhad ac am ddim a gall unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn ofyn am un. Cysylltwch â’n Tîm Un Pwynt Mynediad i gael rhagor o wybodaeth.

Dewisiadau taliadau uniongyrchol

Chi sy’n penderfynu sut yr ydych chi’n dymuno rheoli eich cyllideb gymorth trwy ddewis unrhyw un o’r pedwar dewis canlynol:

  • Taliad uniongyrchol: rydym ni’n talu swm o arian i chi neu eich cynrychiolydd ac rydych chi’n dewis sut mae’n cael ei reoli i roi gofal a chymorth i chi.
  • Gwasanaethau sy’n cael eu rheoli gan y cyngor: rydych chi’n gofyn i ni drefnu ac adolygu eich gofal a’ch cymorth ar eich rhan.
  • Cyfuniad o daliadau uniongyrchol a gwasanaethau sy’n cael eu rheoli gan y cyngor:  byddwch chi neu eich cynrychiolydd yn dewis rheoli eich arian mewn nifer o wahanol ffyrdd, e.e. bydd hanner eich gofal a’ch cymorth yn cael ei reoli gennym ni a byddwch chi’n rheoli’r hanner arall drwy daliad uniongyrchol
  • Gwasanaethau sy’n cael eu rheoli gan drydydd parti: rydych chi neu eich cynrychiolydd yn gofyn i sefydliad sydd wedi’i gymeradwyo reoli eich gofal a’ch cymorth ar eich rhan.

Cymhwysedd

Darllenwch fwy am yr asesiad a chymhwysedd yn y daflen Sut ydw i'n cael mynediad at ofal a chymorth yng Ngogledd Cymru?

Sut ydw i'n cael Mynediad at Ofal a Chymorth yng Ngogledd Cymru? (PDF, 1.57MB)

Byddwch chi’n cael sgwrs ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’ ag un o’n cynrychiolwyr i drafod eich anghenion gofal a chymorth a bydd hyn yn nodi’r gofal a’r cymorth y gallai gael ei ariannu gennym ni.

Sut mae fy ngofal a’m cymorth yn cael eu cynllunio?

Ar ôl i chi gael sgwrs gyda ni, byddwch chi’n cael gwybodaeth, cyngor a chymorth. Mae’n bosib y byddwn ni hefyd yn gofyn i chi weithio gyda ni i gytuno ar gynllun gofal a chymorth ar eich cyfer chi a/neu eich gofalwr.

Mae cynllunio gofal a chymorth yn aml yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau eraill fel y GIG a darparwyr gofal a chymorth lleol a chanlyniad hyn yw cynllun sy’n cael ei alw’n Gynllun Gofal a Chymorth.

Mae eich cynllun gofal a chymorth, yn gytundeb ffurfiol rhyngoch chi, yr awdurdod lleol ac unrhyw sefydliadau eraill sy’n rhan o’ch gofal a’ch cymorth ac mae’n cynnwys:

  • beth sy’n bwysig i chi a’r canlyniadau rydych chi eisiau eu cyflawni
  • gwerth tebygol eich cronfa gofal a chymorth
  • sut yr hoffech chi reoli eich cronfa gofal a chymorth
  • sut fydd eich gofal a’ch cymorth yn cael ei ddarparu
  • sut fydd eich gofal a’ch cymorth yn cael ei reoli
  • sut fydd eich cynllun gofal a chymorth yn cael ei adolygu.

Os mai ni sy’n rholi eich cronfa

Bydd yr arian yn eich cronfa gofal a chymorth personol yn cael ei wario ar eich cyfer chi gennym ni. Byddwn ni’n trefnu eich gofal a’ch cymorth i gyd yn seiliedig ar eich cynllun gofal a chymorth sydd wedi’i gymeradwyo.

Mae angen i ni wirio a ydych chi’n hapus â’r gofal a’r cymorth yr ydym ni’n ei drefnu i chi.

Os yw eich arian chi’n cael ei dalu i sefydliad arall sydd wedi’i gymeradwyo

Bydd y sefydliad yr ydych chi’n ei ddewis, fel eich darparwr gofal, yn siarad â’r cyngor ac yn trefnu’r taliadau.

Weithiau, mae sefydliadau eraill yn codi tâl ychwanegol i drefnu gwneud taliadau gan y cyngor.

Manteision taliadau uniongyrchol

Mae taliadau uniongyrchol yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran sut mae eich gofal a’ch cymorth chi’n cael ei drefnu a’i roi i chi.

Er enghraifft, gallech chi ddewis cyflogi gweithwyr gofal neu gynorthwywyr personol sydd:

  • bob amser ar gael pan fydd eu hangen nhw arnoch chi a’r un bobl fyddan nhw bob amser
  • yn siarad yr un iaith â chi
  • â phrofiad o weithio â’ch anghenion gofal a chymorth chi
  • yn berson penodol sydd wedi’i argymell i chi
  • yn gallu eich helpu chi i fynd i siopau neu ddigwyddiadau cymdeithasol

Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi ddewis gwario’r arian. Eich dewis chi ydyw cyn belled â’ch bod chi’n gwario eich taliadau uniongyrchol ar bethau sy’n bodloni eich cynllun gofal a chymorth y cytunwyd arno.

Mae’n bosib y bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o sut yr ydych chi wedi gwario eich arian bob 3 mis.

Pryd i ystyried gwahanol ddewisiadau

Efallai y byddwch chi’n penderfynu nad yw taliadau uniongyrchol yn ddefnyddiol i chi os:

  • yr ydych chi’n poeni am reoli eich arian neu’r bobl yr ydych chi’n eu cyflogi
  • yr ydych chi’n treulio llawer o amser yn yr ysbyty
  • y byddai’n well gennych chi i’r cyngor drefnu eich gofal

Os nad ydych chi’n hyderus i gadw cofnodion neu reoli’r bobl sy’n gofalu amdanoch chi, dylai’r cyngor allu rhoi cymorth i chi.

Gallech chi hefyd ystyried cael rhywun arall i reoli eich taliadau uniongyrchol, er enghraifft ffrind neu aelod o’r teulu. Bydd angen i chi sefydlu ymddiriedolaeth ar gyfer taliadau sy’n cael eu rheoli gan rywun arall.

Mae gan yr Helpwr Arian wybodaeth am sefydlu ymddiriedolaeth (gwefan allanol).

Sut i wneud cais am daliadau uniongyrchol

Bydd y dewis o daliadau uniongyrchol yn cael ei gynnig i chi ar ôl eich asesiad o anghenion.

Gallwch chi hefyd ofyn i’n hadran gwasanaethau cymdeithasol am daliadau uniongyrchol drwy gysylltu ag Un Pwynt Mynediad.

Sut mae taliadau uniongyrchol yn gweithio

Os byddwch chi’n dewis taliadau uniongyrchol, bydd y cyngor yn anfon yr arian yn eich cronfa gofal a chymorth personol i chi drwy naill ai:

  • anfon cerdyn wedi’i ragdalu i chi
  • ei dalu’n uniongyrchol i fanc, Swyddfa’r Post, cymdeithas adeiladu neu gyfrif Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol.

Yna, gallwch chi ddewis sut yr ydych chi’n gwario’r arian ar eich gofal a’ch cymorth eich hun, cyn belled â’i fod yn cyfateb â’r cynllun gofal a chymorth yr ydych chi wedi’i gytuno arno â’r cyngor.

Arwyddo cytundeb taliadau uniongyrchol

Bydd y cyngor yn gofyn i chi arwyddo dogfen o’r enw cytundeb taliadau uniongyrchol. Mae hwn yn nodi:

  • sut mae’r cyngor eisiau i chi gofnodi’r hyn yr ydych chi’n ei wario arno - er enghraifft, cadw derbynebau
  • eich cyfrifoldebau fel cyflogwr - os ydych chi’n talu am weithiwr gofal

Os fyddwch chi’n gwario taliadau uniongyrchol ar rywbeth nad yw wedi’i gytuno arno yn eich cynllun gofal, gallai’r cyngor gymryd yr arian yn ôl neu ddod â’r taliadau uniongyrchol i ben.

Os ydych chi’n ei chael yn anodd rheoli eich arian

Gofynnwch i’r cyngor am gyngor neu cyswllt Helpwr Arian (gwefan allanol) 

Os ydych chi’n dymuno i rywun arall gael y taliad uniongyrchol

Dylech chi siarad â’r cyngor a chytuno i’r arian gael ei anfon at rywun a fydd yn ei wario ar eich rhan. Er enghraifft:

  • gofalwr
  • ffrind neu aelod o’r teulu
  • rhywun arall sy’n siarad ar eich rhan (eiriolwr)

Mae’n bosib y bydd angen i chi ysgrifennu sut y byddan nhw’n gwario’r arian a pha benderfyniadau y gallan nhw eu gwneud ar eich rhan.

Cyflogi gofalwr neu gynorthwy-ydd personol eich hun

Os byddwch chi’n penderfynu cyflogi gofalwr neu gynorthwy-ydd personol eich hun, mae’n bwysig eich bod chi’n deall y cyfrifoldebau a fydd gennych chi fel cyflogwr.

Er y dylai cymorth gan y cyngor fod ar gael drwy ein Tîm Byw’n Annibynnol, mae’n bosib y bydd angen i chi drefnu:

  • gwiriadau cefndir neu eirdaon
  • treth
  • Yswiriant Gwladol
  • cyfraniadau pensiwn

Darllenwch ragor am gyflogi rhywun i weithio yn eich cartref (gwefan allanol) ar GOV.UK.

Mae gan Disability Rights Uk ragor o wybodaeth ar gael cynorthwy-ydd personol (gwefan allanol)

Cyflogi gweithwyr gofal drwy asiantaeth

Gallech chi ddewis cyflogi gweithwyr gofal drwy asiantaeth yn lle. Mae hyn yn tynnu’r rhwymedigaethau cyfreithiol o fod yn gyflogwr, ond gallai:

  • gostio mwy o arian
  • dynnu rhai o’r manteision - fel cael yr un person i ddarparu eich gofal

Darllenwch ragor am gael cymorth gan gynorthwy-ydd personol neu ofalwr cyflogedig (gwefan allanol) gan GIG y DU ond byddwch yn ymwybodol bod yr erthygl hon yn sôn am Loegr, felly mae rhai gwahaniaethau yng Nghymru.

Sut i ymchwilio i asiantaeth gofal

Pan fyddwch chi’n dewis asiantaeth, dewiswch pa fath o wasanaeth yr ydych chi’n chwilio amdano a’r tasgau y mae angen cymorth arnoch chi i’w gwneud. Mae’n syniad da cysylltu â mwy nag un asiantaeth, oherwydd mae’n bosib y byddan nhw’n cynnig gwahanol fathau o wasanaethau.

Gallwch chi gael gwybodaeth am asiantaethau gofal cartref lleol drwy:

Mae sefydliadau sydd hefyd yn archwilio asiantaethau gofal i weld sut hwyl maen nhw’n ei gael. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn rheoleiddio gofal cymdeithasol i oedolion Cymru gyfan.

Gallech chi hefyd chwilio am wasanaethau ar wefan AGC (gwefan allanol) i weld eu hadroddiadau ar wahanol ddarparwyr yn llawn.

Sut i gwyno am gyllidebau personol

Mae’n werth siarad â’r gwasanaethau cymdeithasol cyn gwneud cwyn swyddogol i weld a allan nhw helpu.

Mae’n dal i fod hawl gennych chi i gwyno os:

  • ydych chi wedi cael gwybodaeth yn nodi nad ydych chi’n gymwys i gael arian tuag at eich gofal a’ch cymorth
  • nad ydych chi’n cytuno â’r swm o arian yn eich cyllideb gofal a chymorth personol

Gallwch chi naill ai:

  • siarad â’ch gweithiwr cymdeithasol o ran cael eich ailasesu
  • gwneud cwyn

Os nad ydych chi’n hapus ag ymateb y cyngor

Cysylltwch ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (gwefan allanol). Maen nhw’n ymchwilio i bob cwyn yn ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion

Mwy o wybodaeth

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â Un Pwynt Mynediad am gymorth neu gyngor drwy:

  • Ffonio 0300 4561000 rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 10am a 4pm ar benwythnosau a Gwyliau Banc (ac eithrio Dydd Nadolig a Sul y Pasg). Os oes angen i chi siarad â gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd mewn argyfwng tu allan i'r oriau hyn, gallwch ffonio 0345 053 3116 (mae galwadau i’r rhif hwn yn costio 2 geiniog y funud a thâl defnyddio eich cwmni ffôn)
  • Cysylltu â Un Pwynt Mynediad ar-lein