Newid hinsawdd ac ecolegol: Beth yw’r broblem?

Mae newid hinsawdd yn cyfeirio at newid mawr a hirdymor ym mhatrymau tywydd a thymereddau cyfartalog y blaned. Ecoleg yw’r ecosystem gysylltiedig sy’n cynnal bywyd.

Newid Hinsawdd

Ers canol y 1800au mae pobl wedi cyfrannu at ryddhad carbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr eraill i’r aer.  Mae hyn yn achosi cynnydd yn y tymheredd ar draws y byd sydd yn ei dro yn arwain at newidiadau hirdymor i’r hinsawdd.

Ers y Chwyldro Diwydiannol, mae tymheredd cyfartalog y blaned wedi codi tua 1°C.

Yn 2015 drwy Gytundeb Paris cafwyd cytundeb byd-eang i gapio’r cynnydd yn y tymheredd ar 1.5%.  Heb sicrhau gostyngiad mewn carbon bydd y byd yn mynd yn gynhesach ac yn gynhesach.

Effeithiau newid hinsawdd

Mae’r cynnydd yn nhymheredd y byd yn achosi newidiadau i’r hinsawdd ac i’n planed.

Effeithiau newid hinsawdd yw:

  • Hafau poethach a sychach
  • Gaeafau cynhesach, gwlypach
  • Mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol
  • Lefel y môr y codi

Mae effeithiau newid hinsawdd yn achosi:

  • Mwy o sychder a thanau gwyllt
  • Stormydd cryfach
  • Mwy o gyfnodau o dywydd eithriadol o boeth
  • Llifogydd
  • Difrod i gwrel
  • Llai o eira a rhew a rhew parhaol yn dadmer
  • Newidiadau i gylch bywyd planhigion
  • Newid i fudo a chylchoedd bywyd anifeiliaid

Newid Ecolegol

Mae’r cynnydd byd-eang mewn tymheredd yn cael effaith fyd-eang ar ecoleg. Yn gwaethygu’r sefyllfa mae gostyngiad yn niferoedd ac ansawdd cynefinoedd yn sgil gweithgareddau rheoli tir anghynaliadwy megis dadgoedwigo a’r defnydd o blaladdwyr.

Adroddwyd gostyngiad o 52% mewn poblogaethau bywyd gwyllt ar draws y byd rhwng 1970 a 2010.  Mae rhywogaethau’r DU sydd mewn perygl yn cynnwys y pathew, y wiwer goch, llygoden y dŵr yn ogystal a llawer o adar a gloÿnnod byw.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am newid hinsawdd ac ecolegol o’r gwefannau canlynol:


Carbon Literate Organisation (Bronze) logo