Yn 2019, fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych ddatgan argyfwng hinsawdd a natur gyda’r nod o fynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
Un o'r camau cyntaf i ni eu cymryd oedd dechrau rheoli rhywfaint o'n glaswelltir i greu dolydd blodau gwyllt ar draws y sir. Nod y prosiect yw adfer ac ehangu'r cynefinoedd sydd ar gael yn y sir i bryfed peillio a bywyd gwyllt. Mae’r prosiect hefyd yn dod â llawer o fanteision neu “wasanaethau ecosystem” i drigolion y sir, fel llai o lifogydd, gwell ansawdd aer, ac oeri’r aer mewn gwres mawr.

- Tynnwch lun o un o'n dolydd blodau gwyllt, dôl mewn ysgol neu safle gwarchodfa natur gymunedol. Gallai fod yn llun o'r safle cyfan neu o ddarn bychan bach ohono, fel pryfyn neu flodyn – beth bynnag sy'n gwneud y llun gorau yn eich barn chi.
- Ysgrifennwch rywbeth am eich llun neu chwilio am ddyfyniad sy’n cyd-fynd ag o.
Gweld safleoedd dolydd blodau gwyllt yn Sir Ddinbych (Map)
Bydd y rhai buddugol yn cael eu chwyddo i faint A2 i'w hargraffu a'u dangos ar y waliau y tu allan i Siambr y Cyngor yn Neuadd y Sir, Rhuthun. Bydd yr enillwyr yn cael eu gwahodd i gyfarfod y Cyngor i dderbyn eu gwobrau a gweld eu lluniau ar y wal.
Bydd yr enillwyr yn cael:
- Detholiad o lyfrau amgylcheddol ar gyfer eu hysgol.
- Fersiwn llai o’r llun i’r enillydd gael ei arddangos gartref neu yn yr ysgol.
- Dewch o hyd i rywle tawel i eistedd yng nghanol natur.
- Ceisiwch fod yn llonydd fel bod yr amgylchedd o'ch cwmpas yn dod i arfer â chi yno.
- Meddyliwch am yr hyn y gallwch ei weld, ei glywed, ei gyffwrdd a’i arogli.
- Ar ôl bod yn llonydd am sbel ac ymdeimlo’r hyn sydd o’ch amgylch, efallai y cewch eich ysbrydoli i dynnu llun o rywbeth nad oedd yn amlwg i chi i ddechrau.
- Dim ond un ffotograff gan bob unigolyn ydym ni’n ei ganiatáu, felly cymerwch eich amser, tynnwch ychydig o luniau a dewiswch eich ffefryn.
Gallech:
- Roi gwybod i ni pam rydych chi'n hoffi’r dolydd, neu beth sy'n bwysig amdanynt.
- Egluro sut mae eich llun neu fod yn y ddôl yn gwneud i chi deimlo.
- Ddweud beth hoffech chi i eraill ei wybod am y dolydd.
- Chwilio am ddyfyniad fyddai'n edrych yn dda gyda'ch llun neu sy’n ei ddisgrifio’n dda yn eich barn chi.
Ceisiwch gadw’r ysgrifen i un neu ddwy frawddeg gan fod angen iddi ffitio ar y llun wedi’i argraffu.
Rhaid i bob ymgais:
- gael eu tynnu yn Sir Ddinbych.
- gael eu tynnu ar un o safleoedd dolydd blodau gwyllt Sir Ddinbych (sydd ag arwydd Caru Gwenyn, sy’n ddôl blodau gwyllt mewn ysgol neu’n safle gwarchodfa natur gymunedol).
- gynnwys planhigion, pryfed ac anifeiliaid gwyllt cynhenid yn unig.
- beidio â chynnwys – unrhyw berson mae posib’ ei adnabod, bywyd gwyllt anfrodorol, anifeiliaid domestig na da byw (defaid/gwartheg ac ati).
- Meithrin i Flwyddyn 2.
- Blwyddyn 3 i Flwyddyn 6.
- Blwyddyn 7 i Flwyddyn 11.
- ADY (yn agored i unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n mynychu lleoliad addysgol penodol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, unrhyw blentyn neu berson ifanc ar y gofrestr ADY, unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd â CDU, unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd ag anabledd fel mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio anabledd).
- Un llun yn unig gan bob unigolyn.
- Mae'n rhaid i’ch llun fod wedi ei dynnu yn Sir Ddinbych.
- Bydd y gystadleuaeth ar agor o 5 Mai 2025 tan 15 Awst 2025.
- Bydd 4 enillydd, a phob un yn cael detholiad o lyfrau amgylcheddol ar gyfer eu hysgol.
- Bydd y lluniau buddugol yn cael eu chwyddo i faint A2 i’w hargraffu a'u dangos ar y waliau y tu allan i Siambr y Cyngor yn Neuadd y Sir, Rhuthun.
- Rhaid i chi fod wedi tynnu’r llun a rhaid i’r holl hawliau iddo fod yn eiddo i chi (gweler Hawliau o ran y lluniau).
- Rhaid i’ch llun fod wedi’i dynnu ar dir Cyngor Sir Ddinbych.
- Bydd y lluniau buddugol a’r rhai sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu harddangos ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Rhaid cyflwyno’r ceisiadau mewn fformat JPEG digidol.
- Ni ddylai ffeiliau’r lluniau fod yn fwy na 10MB o faint (ond yn ddelfrydol yn fwy na 2MB er mwyn gallu eu chwyddo).
- Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod pob cais yn cydymffurfio â'r rheolau hyn drwy gadw'r ffeiliau heb unrhyw ddyfrnod, stensil, border na llofnod ar ffeil y llun ei hun.
- Bydd rhestr fer o luniau’n cael eu dewis ac yna bydd y rhai sydd ar y rhestr fer yn cael eu beirniadu gan y Cynghorydd Barry Mellor (Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant).
- Bydd yr enillwyr yn cael gwybod erbyn 17 Hydref 2025 a bydd eu henwau’n cael eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol ar 24 Hydref 2025.
- Rhaid i bob delwedd fod yn eiddo unigol ac unigryw i'r Ymgeisydd, ac ni ddylai dorri hawlfraint unrhyw barti arall.
- Bydd yr hawlfraint ar gyfer pob Delwedd yn aros gyda pherchennog yr hawlfraint cyn ac ar ôl ei chyflwyno i’r Gystadleuaeth.
- Bydd perchennog yr hawlfraint yn cael ei gredydu mewn unrhyw achos o gyhoeddi ar unrhyw ffurf cyfryngau (gan gynnwys print, gwe a chyfryngau cymdeithasol) gan ddefnyddio ei enw ar y fformat a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd hwnnw wrth gyflwyno.
Cystadlu yng Nghystadleuaeth Ffotograffiaeth Dolydd Blodau Gwyllt
Tudalennau cysylltiedig