Bydd prosiect celf ysbrydoledig yn symbol o’r gwaith adfywio yn un o drefi glan môr gorau gogledd Cymru yn dilyn cwblhau gwaith amddiffyn rhag llifogydd gwerth miliynau o bunnoedd.
Mae'r artist Ffion Pritchard yn chwilio am hyd at 10 o bobl creadigol o bob cwr o Sir Ddinbych i gyfrannu at y gwaith o gynhyrchu murlun ar gyfer ymgyrch Ein Rhyl.
Gyda chefnogaeth Bwrdd Cymdogaeth y Rhyl a Balfour Beatty – y cwmni a gwblhaodd ailddatblygiad Rhodfa’r Dwyrain - eu gweledigaeth yw arddangos hanes a chalon y dref boblogaidd, gan adael gwaddol i genedlaethau'r dyfodol.
Ar hyn o bryd mae Ffion, sydd o Fangor, yn ymgysylltu â grwpiau cymunedol, ysgolion, busnesau a'r sector gwirfoddol, ac mae’n credu y bydd y gwaith ar y cyd ar yr amddiffynfeydd, fydd mewn lle dros yr haf, yn sefyll prawf amser ac yn uno pobl i hyrwyddo'r ardal.
"Bydd pob artist yn cael y dasg o greu panel sy'n cynrychioli cymunedau amrywiol, bywiog a chreadigol y Rhyl," meddai.
“Yn ogystal â’r gwaith hwn – gaiff ei ddylunio a’i argraffu ar ddeunydd gwydn, byddwn yn cynnal gweithdai gydag ysgolion a chlybiau ieuenctid i helpu i greu llwybr murlun i adlewyrchu’r Rhyl heddiw, gan fyfyrio ar y gorffennol a’i dyfodol disglair.
“Rydym am iddo ddal y cyffro a’r cynnydd sy’n digwydd yn y dref, sy’n fwrlwm o weithgarwch gyda chymaint o arloeswyr, pobl greadigol, artistiaid a phobl ifanc.
“Bydd hwn yn llwyfan iddyn nhw, yn gyfle unigryw, felly gobeithiwn weld lot o gydweithio a brwdfrydedd ar y prosiect dros y misoedd nesaf.”
Mae cefndir Ffion ei hun mewn cyfryngau creadigol a darlunio masnachol, gyda ffocws ar gymdeithas, iechyd a “phŵer adrodd straeon”.
Graddiodd o Brifysgol Brighton, a bydd yn dechrau gradd Meistr mewn Ymarfer Celfyddydau: Celf, Iechyd a Llesiant ym Mhrifysgol De Cymru fis Medi, ar ôl gweithio gydag ystod eang o sefydliadau ac elusennau, gan gynnwys caffis dementia, llochesi digartref a grwpiau rhiant a phlentyn.
Dywedodd Craig Sparrow, Cadeirydd Bwrdd Cymdogaeth y Rhyl, y bydd y gosodiad yn “symbol perffaith” ar gyfer ymgyrch Ein Rhyl, strategaeth adfywio gwerth £20 miliwn a ariennir gan raglen Cynllun Cymdogaethau Llywodraeth y DU. Y bwriad yw creu swyddi, gwella seilwaith a dileu rhwystrau i gyfleoedd dros y 10 mlynedd nesaf.
Ar ôl tyfu i fyny yn Nwyrain y Rhyl, mae wrth ei fodd yn gweld y fenter yn dwyn ffrwyth a dywedodd: “Wrth i ni ddechrau ar y pennod newydd i’r dref, wedi’i yrru gan y cynllun gweithredu trawsnewidiol a’r amserlen sy’n cael eu llunio gan y Bwrdd ar hyn o bryd, mae hwn yn brosiect gwych a fydd yn tanio creadigrwydd ac angerdd yn yr ardal.
“Bydd hefyd yn gweithredu fel y symbol perffaith ar gyfer y degawd nesaf o adfywio a thu hwnt, gan roi ymdeimlad o berchnogaeth a balchder yn eu cymuned i bobl ifanc yn benodol.
“Allwn ni ddim aros i weld beth maen nhw a Ffion yn ei ddatblygu, rwy’n siŵr y bydd yn anhygoel ac yn bywiogi’r ardal glan môr yn fawr, gan ddod â bywyd i’r promenâd a lliw i’r amddiffynfeydd môr hanfodol a adeiladwyd dros y blynyddoedd diwethaf.”
Gan weithio ar ran Cyngor Sir Dinbych, arweiniodd Balfour Beatty ar y prosiect arwyddocaol hwn a oedd yn cynnwys cael gwared ar yr hen bromenâd a'r morgloddiau, yn ogystal â lledu a chodi'r promenâd newydd i ddarparu lle gwell i gerddwyr a beicwyr.
Fe wnaethant hefyd adeiladu strwythur rhagfur concrit i leihau'r risg o lifogydd ac erydiad a fydd yn amddiffyn dros 600 o eiddo a effeithiwyd yn flaenorol gan lifogydd yng Nghanol y Rhyl.

Am ragor o wybodaeth am Ein Rhyl/Our Rhyl, cadwch olwg ar y tudalennau hyn a dilynwch @einrhyl a @ourrhyl ar Instagram, LinkedIn a TikTok.
Gall artistiaid sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o'r prosiect anfon e-bost at ffion@rapassociates.co.uk neu ddilyn @wal-ein-rhyl ar gyfryngau cymdeithasol.
Mwy yma ar y Cynllun Amddiffyn Arfordirol.