Mae Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl sy’n cael ei redeg gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf wedi mynd trwy brosiect adnewyddu ynni gwyrdd ar y safle i helpu i leihau ôl troed carbon yr atyniad.
Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych gyhoeddi Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019 ac ers hynny mae wedi ymrwymo i ddod yn Gyngor Di-Garbon Net ac Ecolegol Bositif erbyn 2030.
Mae hyn yn cynnwys lleihau allyriadau o’r ystâd adeiladu, sy’n gyfrifol am dros 60% o allyriadau carbon uniongyrchol y Cyngor.
Prosiect Theatr y Pafiliwn yw'r un mwyaf y mae'r Cyngor wedi'i wneud hyd yma i helpu i leihau allyriadau carbon.
Mae'r gwaith a wnaed yn cynnwys gosod system wresogi newydd, system awyru, cysylltiad nwy wedi'i addasu, cyflwyno system reoli newydd, ychwanegu paneli solar at y to a goleuadau LED wedi'u cyflwyno yn yr adeilad.
Mae disgwyl i gwblhad y prosiect gwyrdd leihau allyriadau ar y safle o tua 203 tunnell o CO2 y flwyddyn.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae’r Cyngor yn parhau i weithio ar sicrhau bod ein hôl troed carbon yn cael ei leihau ar draws y sir drwy edrych ar yr adeiladau yr ydym yn berchen arnynt a dechrau prosiectau i helpu i leihau allyriadau. Yn ogystal ag edrych ar ein hystad, rydym hefyd yn gweithio ar brosiectau i gefnogi lleihau allbwn carbon o’n fflyd, cerbydau preifat a hefyd hybu gwytnwch bioamrywiaeth ar draws y sir.
“Rwy’n falch o weld prosiect mor fawr yn cael ei gwblhau mewn partneriaeth â Hamdden Sir Ddinbych cyf, sydd o fudd enfawr i leihau carbon yn y Pafiliwn a helpu gyda chostau ynni, tra ar yr un pryd yn gwella’r cyfleusterau ar gyfer staff ac ymwelwyr cyhoeddus â’r safle.”
“Rydym yn diolch i Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig am weithio gyda’r Cyngor ar y prosiect pwysig hwn”.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf, “Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf wedi ymrwymo i leihau’r ôl troed carbon ac rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych ar draws portffolio ein hatyniadau i leihau defnydd ynni tra’n cynnal profiad cwsmer o safon. Mae’r prosiect a’r buddsoddiad sylweddol hwn gan Gyngor Sir Ddinbych yn ategu buddsoddiadau diweddar y cwmni i ddarparu theatr a bwyty blaenllaw o’r radd flaenaf.”