Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae'r Marchnad y Frenhines

Mae gwaith i greu datblygiad defnydd cymysg yng nghanol y Rhyl yn mynd rhagddo ac mae’r Cyngor bellach yn cychwyn ar y broses o sicrhau gweithredwr i reoli’r datblygiad.

Bydd Marchnad y Frenhines wedi’i leoli yn Adeiladau’r Frenhines newydd a ddatblygwyd a bydd yn darparu neuadd defnydd cymysg, gan gynnwys cymysgedd o fwytai artisan, unedau manwerthu a gofod digwyddiadau.

Mae’r datblygiad yn cynnwys 18 uned unigol, yn cynnwys 5 uned bwyd poeth, bar â dwy ochr a gofod digwyddiadau hyblyg y tu mewn ac ardal awyr agored sydd yn gallu cynnal digwyddiadau, marchnadoedd neu osod seddi.

Mae’r adeilad yn brosiect ‘catalydd allweddol’ o fewn rhaglen Adfywio’r Rhyl ehangach y Cyngor.

Mae prosiectau mawr diweddar yn yr ardal wedi denu buddsoddiad sector cyhoeddus a phreifat gwerth sawl miliwn yn cynnwys:

  • Adnewyddu Theatr y Pafiliwn a chreu Bwyty ‘1891’
  • Dau westy cenedlaethol
  • Gofod cydweithio ar gyfer mentrau newydd
  • Parc Dŵr a Ninja Tag yn SC2
  • Pont y Ddraig a gwelliannau i’r Harbwr
  • Tai a pharc cymunedol Gerddi Heulwen

Mae masnachwyr sydd â diddordeb gweithredu ym Marchnad y Frenhines yn cael eu hannog i gofrestru eu diddordeb am le.

Dywedodd y Cyng. Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:“Dyma gam pwysig iawn ar gyfer prosiect Adeiladau’r Frenhines ac mae’n gyfle gwych i fasnachwyr lleol.

“Mae’r gwaith o ddymchwel yr adeiladau eisoes wedi arwain at greu gwaith i fusnesau ac unigolion Sir Ddinbych gyda lleoliadau drwy gynllun Sir Ddinbych yn Gweithio y Cyngor, serch hynny dyma lle byddai manteision i’r Cyngor yn cynyddu ymhellach, ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at y camau nesaf.”

“Bydd y prosiect yn ased i’r Sir a bydd o fudd i economi Sir Ddinbych cyfan. Buaswn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb gweithredu neu sydd eisiau masnachu ym Marchnad y Frenhines, i fynegi eu diddordeb cyn gynted â phosibl.

Os hoffech chi weithredu a rheoli Marchnad y Frenhines, neu os oes gennych chi ddiddordeb masnachu ar y safle, cysylltwch â ni - https://www.sirddinbych.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/adfywio/y-rhyl/adeiladaur-frenhines/cyfleoedd.aspx


Cyhoeddwyd ar: 07 Medi 2022