Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Gwahoddir pobl sydd â diddordeb mewn prentisiaethau, gwaith dan hyfforddiant ac interniaethau i’r Digwyddiad Prentisiaethau a Gwaith dan Hyfforddiant SkillX ar ddydd Mawrth, 8 Gorffennaf yn 1891 yn Y Rhyl, o 10am i 1pm.

Wedi ei drefnu gan Sir Ddinbych yn Gweithio, mae’r digwyddiad am ddim yn cynnig sgyrsiau gan gyflogwyr, darparwyr a phrentisiaid presennol, ynghyd â chyfleoedd i siarad yn uniongyrchol gyda sefydliadau ynglŷn â swyddi sydd ar gael. Mae ar agor i bawb, os ydych wedi gadael yr ysgol, yn chwilio am swydd, eisiau newid gyrfa neu ddim ond yn chwilfrydig.

Bydd sefydliadau yn gobeithio llenwi amrywiaeth o brentisiaeth o Lefel 1 hyd at Lefel 7 a swyddi dan hyfforddiant, gan gynnig cyfleoedd i bob lefel profiad.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae hwn yn gyfle gwych i drigolion weld yr ystod eang o brentisiaethau a swyddi dan hyfforddiant sydd ar gael yn lleol. Trwy gysylltu pobl yn uniongyrchol â chyflogwyr a darparwyr hyfforddiant, gobeithiwn agor drysau i yrfaoedd llwyddiannus a chefnogi twf economaidd ein cymunedau.

Meddai Ruth Hanson, Prif Reolwr yn Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Ar ôl gweld buddion prentisiaethau gyda fy mhlant fy hun, rwy’n gwybod pa mor werthfawr y gall y cyfleoedd hyn fod. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sy’n ystyried eu camau nesaf, i ofyn cwestiynau, a gweld beth sydd ar gael, os ydych ar fin dechrau neu’n ystyried newid gyrfa.

Bydd pawb sy’n bresennol yn gallu:

  • Dysgu am lwybrau gyrfa gyda gwybodaeth am ddiwydiannau a swyddi gwahanol
  • Cysylltu â chyflogwyr sy’n recriwtio prentisiaid a hyfforddeion
  • Dysgu am raglenni prentisiaeth, gan gynnwys cymwysterau a llwybrau dilyniant
  • Gofyn cwestiynau yn uniongyrchol i gyflogwyr, darparwyr, a phrentisiaid presennol

Mae amserlen y digwyddiad yn cynnwys sgyrsiau am fuddion prentisiaethau, profiadau prentisiaid, disgwyliadau cyflogwyr, panel cwestiwn ac ateb, ac amser i gwrdd â chyflogwyr yn un i un.

Mae cyflogwyr a darparwyr a gadarnhawyd yn cynnwys Airbus, Ifor Williams Trailers, Wynne Construction, y Weinyddiaeth Amddiffyn (RAF, y Llynges Frenhinol, y Fyddin Brydeinig), y GIG, y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf, Adran Gwaith a Phensiynau, Gwasanaeth Sifil, RWE, Gwasanaeth Tân, ProArb, CYD Innovation, COPA, Anheddau Cyf., Seren Gobaith, ac eraill.

Mae darparwyr hyfforddiant a chymorth yn cynnwys Prifysgol Wrecsam, GLLM, Gyrfa Cymru, Busnes Cymru, Achieve More Training Ltd, Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru a Screen Alliance Wales.

Amserlen y digwyddiad:

  • 10:15am – Beth yw prentisiaeth/gwaith dan hyfforddiant? (Sir Ddinbych yn Gweithio)
  • 10:35am – Sut brofiad yw bod yn weithiwr dan hyfforddiant neu’n brentis? (Prentisiaid lleol)
  • 10:50am – Trosolwg o ddarpariaeth hyfforddiant (Coleg)
  • 11:10am – Beth yw prentisiaeth? (Sesiwn Gymraeg) (Sir Ddinbych yn Gweithio)
  • 11:30am – Safbwynt cyflogwr (Cyflogwr lleol)
  • 11:45am – Panel Cwestiwn ac Ateb Prentisiaid (Prentisiaid lleol)
  • 12:00pm – Prentisiaethau lefel uwch (Prifysgol)
  • 12:15pm – Cwrdd â chyflogwyr a darparwyr

Mae’r digwyddiad am ddim a gellir galw heibio unrhyw bryd, er bod ymwelwyr yn cael eu hannog i aros am y bore cyfan i elwa o’r amserlen lawn.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.


Cyhoeddwyd ar: 20 Mehefin 2025