Diogelwch beicwyr

Beth ydi Bikeability?

Mae Bikeability wedi cymryd lle’r hen brofion hyfedredd beicio ac yn helpu plant i feithrin sgiliau a magu hyder i feicio ar y ffordd.

Mae hyfforddiant Bikeability yn cael ei gyflwyno gan hyfforddwyr cymwys ac mae tair lefel:

  • Lefel 1: mae’r beicwyr yn dysgu’r sgiliau sylfaenol i reoli a meistroli’r beic. Mae’r hyfforddiant yn cael ei gynnal mewn lle heb drafnidiaeth, fel rheol ar gae'r ysgol.
  • Lefel 2: mae’r hyfforddiant lefel dau yn cael ei gynnal ar ffyrdd lleol gydag ychydig o drafnidiaeth fel bod y beiciwr yn cael profiad o ddelio â thrafnidiaeth ar deithiau byr, fel beicio i'r ysgol.
  • Lefel 3: dyma hyfforddiant ar ffyrdd prysurach a chymhleth gyda phob math o amodau a sefyllfaoedd heriol.

Sut ydw i'n cymryd rhan?

Mae hyfforddiant lefel 1 a 2 ar gael i bob disgybl blwyddyn 6 yn ysgolion cynradd Sir Ddinbych. Mae hyfforddiant lefel 3 ar gael mewn rhai ysgolion uwchradd. Cysylltwch ag ysgol eich plentyn i weld pryd mae’r hyfforddiant.

Mae hyfforddiant Bikeability hefyd ar gael i oedolion am bris bychan. Dewch i wybod mwy am hyfforddiant yn eich ardal chi (gwefan allanol).