Terfynau cyflymder

Terfynau cyflymder 20mya

Ym mis Medi 2023 daw trefn newydd i rym lle gosodir terfyn cyflymder 20mya yn awtomatig ar bob ffordd yn ninasoedd, trefi a phentrefi Cymru sydd â goleuadau stryd.

Mae terfynau cyflymder cenedlaethol yn berthnasol i'r rhan fwyaf o'r ffyrdd yn Sir Ddinbych. Oni bai eich bod yn gweld arwyddion sy'n dweud fel arall, y terfynau cyflymder yw:

  • 30mya mewn ardal â goleuadau stryd
  • 60mya ar ffordd sengl heb oleuadau stryd
  • 70mya ar ffordd ddeuol heb oleuadau stryd

Mae terfynau cyflymder gwahanol yn berthnasol i fathau penodol o gerbydau, megis bysus, cerbydau nwyddau trwm a cheir yn tynnu carafannau. Darganfod mwy am derfynau cyflymder (gwefan allanol).

Os ydych yn bryderus am faterion goryrru yn eich ardal chi, cysylltwch â ni ac fe edrychwn ar y mater. Os byddwn yn canfod bod problem goryrru byddwn yn edrych am ffyrdd i’w liniaru.