Llifogydd ar ffyrdd

Os oes llifogydd ar ffordd neu ffos wedi blocio yn eich ardal chi, rhowch wybod i ni ac mi wnawn ni geisio cadw’r broblem dan reolaeth.

Adrodd am lifogydd

Fe allwch chi naill ai gysylltu â ni arlein neu drwy ffonio 01824 706000.

Sachau tywod

Os ydych yn byw mewn ardal â pherygl o lifogydd ac yn teimlo yr hoffech gadw ambell fag tywod yn eich cartref fel rhagofal i’w ddefnyddio os bydd llifogydd, gallwch brynu bagiau tywod o siopau nwyddau neu siopau DIY. Mae systemau unigryw eraill ar gael i amddiffyn drysau a brics aer.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Perygl llifogydd yn y tymor hir (gwefan allanol).

Nid ydym yn darparu bagiau tywod i eiddo unigol pan fo llifogydd. Yn hytrach, rydym yn defnyddio bagiau tywod yn bennaf i ddiogelu grwpiau o drigolion, trwy ddargyfeirio llif y dŵr a’i arwain at gylïau a thyllau archwilio. Mae hyn yn ein galluogi i amddiffyn strydoedd cyfan, lle y byddai rhoi bagiau tywod i aelwydydd unigol ar stryd yn ddefnydd llai effeithiol o adnoddau.

Mwy o wybodath am sut i ddiogelu eich cartref rhag y perygl o lifogydd.