Gwasanaeth cyngor ar Adeiladau Rhestredig, ardaloedd cadwraeth

Gallwn roi cyngor cyn ymgeisio i chi ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ddatblygiadau ar Adeiladau Rhestredig neu ddatblygiadau mewn Ardaloedd Cadwraeth a safleoedd Treftadaeth y Byd.

Efallai y byddwch hefyd angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw fath o ddatblygiad ac mae gwybodaeth ynghylch cael y caniatâd hwn ar gael ar ein tudalen cyngor cynllunio.

Sut i drefnu’r gwasanaeth hwn?

I drefnu’r gwasanaeth hwn bydd angen i chi gwblhau Ffurflen Ymholiad - Gwasanaeth Cyngor i ofyn am gyngor adeilad rhestredig ac ardal gadwraeth a'i e-bostio i built.environment@denbighshire.gov.uk neu ei bostio i Caledfryn, Dinbych.

Cais am gyngor ar adeiladau rhestredig ac ardal gadwraeth (PDF, 188KB)

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu'r holl ddogfennau ychwanegol y gofynnwyd amdanynt pan fyddwch yn anfon eich ffurflen.

Faint mae'n gostio?

Cyngor cyn ymgeisio am ganiatâd adeilad rhestredig ac ar gyfer datblygiadau o fewn ardaloedd cadwraeth.

Cyngor cyn ymgeisio am ganiatâd adeilad rhestredig ac ar gyfer datblygiadau o fewn ardaloedd cadwraeth

Mi allwn rhoi cymorth cyn ymgeisio ar pob cais sy'n cynnwys gwaith i adeilad rhestredig neu ar ardal cadwraeth ac holl ymholiadau gan darpar brynwyr.

Taliadau ar gyfer cyngor cyn ymgeisio am ganiatâd adeilad rhestredig ac ar gyfer datblygiadau o fewn ardaloedd cadwraeth
Cyngor Taliadau
 Cyngor Ysgrifenedig    £60 yr awr  
 Hyd at awr o gyfarfod mewn swyddfa a chyngor ysgrifenedig  £120
 Cyfarfod safle hyd at 1 awr a chyngor ysgrifenedig   £180
Taliadau monitro Datblygu Safle am ganiatâd adeilad rhestredig

Gallwn rhoi gymorth ar prosiectua datblygiadol fel cytuno ar samplau/manylion, newidiadau i gynlluniau a gymeradwywyd, dadorchuddio adeiladwaith hanesyddol ac ati.

Taliadau ar gyfer monitro Datblygu Safle am ganiatâd adeilad rhestredig
Cyngor Cost
 Cyfarfod safle hyd at 1 awr £120
 Cyfarfod safle hyd at 1 awr a chyngor ysgrifenedig £180
Taliadau tystysgrif cwblhau i ardystio cydymffurfiaeth â chaniatâd adeilad rhestredig

Gallwn rhoi tystysgrifau cwblhau/ cydymffurfiaeth ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig.

Taliadau ar gyfer tystysgrif cwblhau i ardystio cydymffurfiaeth â chaniatâd adeilad rhestredig
Cyngor Cost
Cyfarfod Safle hyd at 1 awr a Chyngor Ysgrifenedig/tystysgrif cwblhau     £180

Sut i dalu

Bydd y tâl sy’n gysylltiedig â'ch ymholiad yn daladwy trwy anfoneb a fydd yn cael ei roi i'r ymgeisydd o fewn 14 diwrnod ar ôl derbyn eich ffurflen ymholiad.

Pa wasanaethau eraill yr ydym yn eu darparu?

  • Archwiliadau safle a chyngor yn ystod y cam adeiladu
  • Tystysgrif cwblhau i ardystio cydymffurfiaeth â chaniatâd adeilad rhestredig

Beth sy’n digwydd ar ôl gofyn am y cyngor?

Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith i roi gwybod i chi ein bod wedi derbyn eich ffurflen.

Os nad ydych wedi anfon y wybodaeth angenrheidiol yna byddwn yn cysylltu â chi ac yn egluro beth sydd angen i chi ei wneud, rydym wedi cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, ein nod yw darparu cyngor ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod.