Cofrestru enw stryd neu enw neu rif eiddo

Dylech wneud cais i gofrestru enw stryd neu enw / rhif eiddo os ydych chi;

  • Yn adeiladu eiddo newydd
  • Yn trawsnewid adeilad a fydd yn arwain at greu eiddo newydd
  • Yn newid enw eich eiddo

Dylech wneud cais pan fo’r caniatâd cynllunio wedi’i gymeradwyo a bod gwaith yn dechrau ar y safle.  Ni fydd cwmnïau gwasanaethau yn gosod gwasanaethau heb gyfeiriad post a chod post swyddogol.

Sut i gofrestru enw stryd neu enw / rhif eiddo

Gallwch gofrestru enw stryd neu enw / rhif eiddo ar-lein.

Darllenwch ein polisi enwi a rhifo strydoedd cyn cyflwyno cais. 

Polisi enwi a rhifo strydoedd (PDF, 397KB)

Cofrestru enw stryd neu enw neu rhif eiddo ar-lein

Pa mor hir fydd y broses yn para?

Os yw eich cais yn ymwneud â chyfeiriad newydd ar stryd sy’n bodoli eisoes byddwn yn prosesu eich cais o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl derbyn cais SNN dilys.

Os yw eich cais yn cynnwys enwi strydoedd newydd, o ganlyniad i broses ymgynghori gyda chynghorwyr lleol, o dan amgylchiadau arferol, byddwn yn dyrannu cyfeiriad post o fewn 30 diwrnod gwaith ar ôl derbyn cais dilys.

Pan fyddwn yn creu rhifau eiddo ac enwau ffyrdd newydd byddwn yn cyflwyno dogfennau swyddogol i gadarnhau'r cyfeiriadau newydd.