Addewid i fod yn Gyflogwr o Blaid Pobl Hŷn

Logo: Age-friendly Employer

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi llofnodi’r Addewid i fod yn Gyflogwr o Blaid Pobl Hŷn - rhaglen ar draws y DU sy’n cael ei rhedeg gan y Ganolfan Heneiddio’n Well. Trwy lofnodi’r addewid, rydym ni’n dangos ein hymrwymiad i weithwyr hŷn ac yn gwneud ein gweithle’n lle o blaid pobl hŷn. Mae hyn yn golygu ein bod yn cymryd camau i wella ein prosesau i recriwtio, cadw a datblygu gweithwyr 50 oed a hŷn.

Mae gwneud yr addewid yn golygu ein bod yn gallu denu mwy o ymgeiswyr ar gyfer pob swydd. Mae’n golygu bod gweithwyr hŷn yn gallu parhau i ffynnu a chyfrannu yn ein sefydliad. Mae hefyd yn golygu ein bod yn gallu elwa ar yr hwb i arloesedd a chynhyrchiant sy’n dod yn sgil gweithleoedd lle mae mwy nag un genhedlaeth.

Am fwy o wybodaeth am yr addewid, ewch i: ageing-better.org.uk/age-friendly-employerpledge (gwefan allanol).