Gwneud cais i weithio yn yr Etholiadau

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Cyn i chi wneud cais

    i weithio yn yr etholiadau, mae’n rhaid i chi:

    • fod yn 18 oed o leiaf
    • fod â hawl i weithio yn y DU yn unol â Deddf Lloches a Mewnfudo 1996. Bydd gofyn i chi ddarparu dogfennau fel tystiolaeth i gefnogi hyn, e.e. eich pasbort neu ddogfen sy’n dangos eich Rhif Yswiriant Gwladol (gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i ddarparu tystiolaeth).
    • beidio bod wedi’ch cyflogi gan, na bod yn perthyn i ymgeisydd posibl
    • beidio gweithio ar ran ymgeisydd na phlaid wleidyddol
    • cytuno i weithio mwy na’r oriau gwaith arferol y mae’r gyfarwyddeb oriau gwaith yn darparu ar eu cyfer