Digwyddiadau tyngedfennol (ysgolion)

O ran ymateb gan y Tîm Digwyddiadau Tyngedfennol, gellir diffinio digwyddiad tyngedfennol fel "unrhyw ddigwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau sy’n drech na systemau ymdopi arferol yr ysgol".

Er eu bod yn brin, gall argyfyngau a digwyddiadau tyngedfennol darfu ar y diwrnod ysgol a gofyn am weithredu ar unwaith. Gall digwyddiadau trasig, fel marwolaeth sydyn aelod o gymuned yr ysgol neu achos o hunanladdiad, greu teimladau dwys o bryder, euogrwydd a gwylltineb ymysg disgyblion a staff.  Bydd helpu disgyblion a staff i ymdopi â’u galar yn lleihau'r tebygolrwydd bod un digwyddiad tyngedfennol yn arwain at ddigwyddiadau anffodus eraill.  

Nod y canllawiau yw amlinellu rôl yr ysgol o ran bod yn rhagweithiol:

  • o ran paratoi ar gyfer digwyddiadau tyngedfennol
  • o ran ymateb i ddigwyddiadau tyngedfennol

Pan fydd digwyddiad trasig yn digwydd, bydd ymateb y Gwasanaeth Seicoleg Addysg fel arfer yn cynnwys:

  • Helpu rheolwyr yr ysgol i asesu arwyddocâd ac effaith y digwyddiad, i lunio cynllun, defnyddio adnoddau’r ysgol a chael mynediad i systemau cefnogaeth eraill.
  • Darparu gwybodaeth a chyngor i reolwyr a staff wrth iddynt ddod i delerau â’r sefyllfa.
  • Bod ar gael i staff yr ysgol ar gyfer ymgynghori wrth iddynt gefnogi’r myfyrwyr. Gallai hyn gynnwys cyfarfodydd cefnogaeth ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol.
  • Gweithio gydag athrawon i nodi myfyrwyr sydd fwyaf angen gefnogaeth, a datblygu gweithdrefnau ar gyfer adolygu eu hanghenion a chefnogi atgyfeiriad pellach, os oes angen.

Mae’r canllawiau yn darparu gwybodaeth o ran:

  • Sefydlu timau ymateb
  • Datblygu cynllun gweithredu/ymateb a gynlluniwyd
  • Cyfathrebu gyda staff, disgyblion, rhieni a’r cyfryngau
  • Rhestrau gwirio a samplau o lythyrau/cyhoeddiadau
  • Cyngor o ran deall ac ymdopi â galar

Ymateb i Ddigwyddiadau Tyngedfennol (Ysgolion) - Pecyn Gwybodaeth (MS Word, 121KB)

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Seicoleg Addysg i gael rhagor o wybodaeth / cyngor: 01824 708064.

Dogfennau cysylltiedig