Cynnig i Landlordiaid

Os ydych yn landlord eiddo yn Sir Ddinbych, drwy ein Cynnig i Landlordiaid, hoffem ddefnyddio eich eiddo am 6 mis i helpu unigolyn neu deulu digartref. 

Manteision y Cynnig i Landlordiaid

Gyda’n Cynnig i Landlordiaid, byddwch yn cael:

  • 6 mis o rent ymlaen llaw
  • blaendal
  • bydd Cyngor Sir Ddinbych yn rheoli’r eiddo am y 6 mis cyntaf
  • cymelldaliad ar ddiwedd y 6 mis os bydd y preswylydd yn cymryd drosodd y denantiaeth
  • cefnogaeth barhaus drwy ein gwasanaethau cefnogi pobl a chynnal tenantiaeth
  • hyfforddiant barod i rentu yn cael ei gynnig i denantiaid
  • byddwn yn cefnogi’r bobl rydym yn eu hailgartrefu yn eich eiddo

Beth fyddwch ei angen

Byddwch angen darparu’r canlynol i fod yn gymwys ar gyfer y Cynnig i Landlordiaid:

  • Tystysgrif Diogelwch Nwy
  • Adroddiad Cyflwr Trydanol
  • Tystysgrif Perfformiad Ynni
  • Trwydded Rhentu Doeth Cymru
  • Yswiriant Landlord
  • Prawf Perchnogaeth

Sut i ymgeisio

Gallwch ymgeisio am y Cynnig i Landlordiaid arlein. 

Ymgeisio am y Cynnig i Landlordiaid arlein

Ar ôl 6 mis 

Bydd chwe mis cyntaf y Cynnig i Landlordiaid yn rhoi cyfle i chi ddod i adnabod y bobl rydym wedi eu lleoli ac ar ôl 6 mis, hoffem i chi gofrestru ar gyfer tenantiaeth fyrddaliol sicr gyda’r unigolyn neu’r teulu hwnnw.